Disgyblion yn annog preswylwyr i gadw Bracla yn daclus
Poster information
Posted on: Dydd Llun 30 Tachwedd 2020
Mae disgybl o Fracla yn helpu i annog preswylwyr i gadw eu cymuned yn daclus.
Cynlluniodd Kaja Mikluszewska, sy'n saith mlwydd oed ac yn mynd i Ysgol Gynradd Bracla, boster i newid agweddau pobl tuag at sbwriel yn eu cymunedau, ac fe'i dewiswyd fel enillydd o fwy na 500 o geisiadau.
Mae'r ymgyrch Caru Bracla a'i Chadw'n Lân! yn gydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cadwch Gymru'n Daclus a Chyngor Cymuned Bracla, ynghyd â SeaQuest.
Ar ddechrau'r flwyddyn, dysgodd plant gan yr Archddiacon John Lewis, Ysgol Gynradd Bracla, Ysgol Gynradd Tremains ac Ysgol Bro Ogwr am effeithiau niweidiol sbwriel ar eu hamgylchedd lleol drwy gynnal sesiynau casglu sbwriel yn eu cymunedau a chymryd rhan mewn gweithdai.
Yna, cynlluniodd y disgyblion bosteri gwrth-sbwriel fel rhan o gystadleuaeth leol. Gohiriwyd beirniadu oherwydd pandemig Covid-19 ond mae pob ysgol bellach wedi derbyn tystysgrifau ar gyfer eu henillwyr.
Mae poster Kaja bellach wedi'i wneud yn arwyddion a fydd yn cael eu harddangos ar strydoedd o amgylch Bracla i annog pobl i beidio â gollwng sbwriel ac i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu.
Yr enillwyr eraill oedd Charley Richards, disgybl yn yr Archddiacon John Lewis, Charly Webb, sy'n mynd i Ysgol Gynradd Tremains a Freddie Davey, disgybl yn Ysgol Bro Ogwr.
Dywedodd dirprwy arweinydd y cyngor a'r aelod cabinet dros adnoddau, y Cynghorydd Hywel Williams: "Llongyfarchiadau i'r holl enillwyr yn ein cystadleuaeth poster Caru Bracla a'i Chadw'n Lân! Dangosodd disgyblion o bob ysgol frwdfrydedd dros y prosiect a gwnaeth pob un o'r posteri argraff fawr arnom.
"Dewiswyd poster Kaja fel yr enillydd cyffredinol oherwydd ei ddyluniad enfys lliwgar a neges 'Adeiladu Bracla gwell'.
"Mae pob ysgol bellach wedi derbyn pecyn casglu sbwriel i'w helpu i barhau â'u gwaith da. Da iawn i'r holl blant sydd wedi cymryd rhan am osod esiampl mor dda i'w cymunedau."
Mae'r ymgyrch Caru Bracla a'i Chadw'n Lân yn barhad o waith a wnaed gan Dîm Prosiect Strydoedd Glanach ym Mhorthcawl, y Pîl, Mynydd Cynffig, Corneli a Chefn Cribwr i godi ymwybyddiaeth am sbwriel a'r problemau y mae'n eu hachosi.
Bydd tîm y prosiect yn parhau i weithio gyda Chyngor Cymuned Bracla i sefydlu canolfan casglu sbwriel yn y Flwyddyn Newydd.