Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Disgyblion y chweched dosbarth yn torchi eu llewys ar gyfer Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru’n canmol disgyblion y chweched yn ysgolion cyfun Porthcawl a Bryntirion am ddangos esiampl yng Nghymru pan dorchodd tua chan disgybl eu llewys i roi gwaed y mis diwethaf

Mae’r rhain yn ddwy o dair ysgol trwy Gymru sydd wedi cynnal sesiynau rhoi gwaed i ddisgyblion a staff eleni, gan wneud ymdrech ragorol dros roi gwaed.

Bu i Ysgol Gyfun Porthcawl gynnal ei sesiwn rhoi gwaed gyntaf ym mis Chwefror a chipiwyd yr holl 64 cyfle i roi gwaed gan ddisgyblion a staff ac roedd yn awyddus i gyfrannu at achub bywydau.

Roedd disgyblion y chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Bryntirion yr un mor awyddus, a llawer ohonynt yn rhoi gwaed am y tro cyntaf, mewn sesiwn a drefnwyd yn arbennig ynghynt yr wythnos hon; sef trydydd clinig rhoi gwaed yr ysgol er 2016.

Rwy’n hynod falch o’r holl fyfyrwyr a staff a dorchodd eu llewys a rhoi gwaed. Gall pob rhodd achub hyd at dri bywyd felly mae ein hymdrechion fel ysgol yn golygu y gallem ni achub cannoedd o fywydau yng Nghymru.

Nicholas Brain, Pennaeth Ysgol Gyfun Bryntirion.

Dywedodd Kieran Cutajar, sy’n ddisgybl ym Mlwyddyn 12 Ysgol Gyfun Bryntirion: “Ro’n i’n bryderus iawn am roi gwaed am y tro cyntaf, yn y pen draw fe fu'r profiad yn un rhyfeddol o gadarnhaol. Roedd staff Gwasanaeth Gwaed Cymru'n gefnogol iawn ac fe helpon nhw i dawelu fy meddwl.

“Helpodd y profiad fi i ddeall pa mor bwysig yw rhoi gwaed a pha mor hawdd y gall helpu i achub bywydau fod. Fe fydda’ i’n sicr yn rhoi eto, a byddwn i’n annog pawb arall i wneud hefyd."

Ar hyn o bryd, mae angen dros 100,000 uned o waed bob blwyddyn ar Wasanaeth Gwaed Cymru i gyflenwi ysbytai yng Nghymru, sy’n golygu bod arnynt angen tua 450 uned y dydd.

Dywedodd Jonathan Ellis, Pennaeth Cysylltu â Rhoddwyr Gwasanaeth Gwaed Cymru: “Fe hoffem ni ddiolch i’r disgyblion ac aelodau staff a gyfrannodd yn anhunanol tuag at y 100,000 uned y mae eu hangen arnon ni yng Nghymru eleni. Maen nhw wedi dangos ymroddiad ardderchog ac ysbryd cymunedol gwych.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd gweithredoedd y disgyblion yn annog mwy o bobl sy’n byw yn y fwrdeistref sirol i ystyried rhoi gwaed yn y dyfodol. Nid yn unig ar gyfer damweiniau ac argyfyngau y defnyddir y gwaed a gesglir; caiff ei ddefnyddio hefyd ar gyfer cleifion canser a lewcemia y mae arnyn nhw angen trallwysiadau rheolaidd, felly mae hi’n hanfodol ein bod ni’n cynnal cyflenwad cyson i helpu cleifion mewn angen trwy’r wlad.”

Cynhelir sesiwn Gwasanaeth Gwaed Cymru yng ngwesty Heronston, Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Llun 19 Mawrth a dydd Llun 9 Ebrill o 10am tan 12.30pm ac o 2pm tan 4.20pm i aelodau’r cyhoedd gael rhoi gwaed.

Ewch i wefan gwaed Cymru neu ffoniwch 0800 252 266 i gychwyn achub bywydau heddiw.

Chwilio A i Y