Disgyblion TGAU yn cyrraedd y safon ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 23 Awst 2019
Mae ysgolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu set trawiadol arall o ganlyniadau TGAU.
Mae ysgolion y fwrdeistref sirol wedi gweld cynnydd o 1.5 y cant mewn perfformiad ar raddau A*-C gyda 63.8 y cant o ddisgyblion yn cyflawni'r graddau hynny o’i gymharu â 62.8 y cant yn genedlaethol.
Yn yr un modd, mae'r perfformiad ar raddau A*-G wedi cynyddu 1.2 pwynt canran i fod bron yr un peth â'r ffigurau cenedlaethol ar y lefel hon.
Ymhlith nifer o straeon o lwyddiant ar ddiwrnod canlyniadau TGAU, arweiniodd 19 y cant o'r cofrestriadau at raddau A*-A, sy'n golygu bod disgyblion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i berfformio'n well na'r cyfartaledd cenedlaethol o 0.6 y cant.
Rwy’n falch iawn o glywed am berfformiad gwell ein disgyblion ac rwyf am longyfarch pob un ohonynt am eu gwaith caled yn arwain at heddiw. Mae cymaint o lwyddiannau gwych yn cael eu dathlu heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i'r staff dysgu a chymorth am eu hymroddiad eithriadol i ddatblygiad academaidd a chymdeithasol ein pobl ifanc. Mae wir yn gwneud gwahaniaeth i'w bywydau yn y dyfodol.
Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet Addysg ac Adfywio’r cyngor
Ychwanegodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd y Cyngor: “Mae heddiw yn ddiwrnod mawr i gynifer o bobl ifanc a gobeithio eu bod wedi cael y canlyniadau roedden nhw eu heisiau wrth iddyn nhw edrych tuag at opsiynau ar gyfer addysg uwch, hyfforddiant neu gyflogaeth.
“I unrhyw un na chafodd y canlyniadau roedden nhw’n eu disgwyl, byddwn yn eu hannog i gael mynediad at yr ystod eang o gyngor a chefnogaeth sydd ar gael i'w helpu i wneud y penderfyniad iawn. Siaradwch â'ch ysgol, Coleg Pen-y-bont neu Gyrfaoedd Cymru am fwy o wybodaeth."