Dirwy i Fasnachwr am werthu bwyd wedi llwydo
Poster information
Posted on: Dydd Iau 19 Rhagfyr 2019
Mae perchennog siop ym Maesteg wedi pledio’n euog i werthu dros 20 eitem o fwyd a oedd wedi pasio eu dyddiad defnyddio olaf.
Wrth ymweld â Garth General Stores ym Maesteg, daeth swyddogion o hyd i frechdanau ‘brecwast trwy'r dydd’, tortilla cyw iâr tikka, pastai cyri a llawer iawn mwy ar werth er eu bod yn rhy hen i’w gwerthu.
Roedd rhai eitemau yn amlwg wedi llwydo, ac roedd dyddiad defnyddio olaf pob un ohonynt wedi pasio. Roedd cyflwr, cynnwys ac ansawdd y bwydydd yn wael.
Ar ôl yr ymweliad ym mis Hydref 2018, aeth yr achos yn erbyn y perchennog busnes Devendra Patel i Lys Ynadon Caerdydd ar 29 Tachwedd 2019. Plediodd Mr Patel yn euog i 12 achos o dan Rheoliadau Cyffredinol Bwyd 2004 ac yn euog i un achos o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
Dywedodd Mr Patel wrth yr ynadon ei fod wedi bod yn brysur a heb allu gwirio dyddiadau'r bwydydd y noson cyn i’r swyddogion gyrraedd. Ond, nid oedd y swyddogion yn gallu dod o hyd i unrhyw gofnodion o wirio dyddiadau.
Fe wnaeth y llys gydnabod bod y busnes wedi gwella a rhoddwyd dirwy o £50 am bob trosedd - cyfanswm dirwy o £650 - a gorfodi Mr Patel i dalu costau o £400 a thâl dioddefwr ychwanegol o £30.
Rwy’n ddiolchgar i swyddogion Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir y Cyngor am eu gwaith i wneud yn siŵr bod bwyd yn ddiogel i’w fwyta.
O dan Reoliadau Cyffredinol Bwyd, mae gwerthu bwyd sydd wedi pasio eu dyddiad defnyddio olaf yn drosedd, a gall bwyta hen fwyd gael canlyniadau iechyd difrifol, yn arbennig ymysg pobl a phlant sy’n agored i niwed.
Ni fydd ein Gwasanaethau Rheoleiddiol a Rennir yn oedi cyn cymryd camau yn erbyn unrhyw fasnachwr sy’n gwerthu bwyd sydd tu hwnt i’w dyddiad defnyddio olaf. Rydym yn annog yr holl fasnachwyr i roi’r arfer da a argymhellir ar waith i atal hyn rhag digwydd.
Cynghorydd Huw David
Dylai busnesau ystyried y camau canlynol wrth werthu bwydydd sy’n mynd yn ddrwg yn gyflym ac sy’n arddangos dyddiad defnyddio olaf ar eu deunydd pecynnu:
- Gwirio a chofnodi dyddiadau bwydydd bob bore cyn agor, neu'r peth olaf ar ôl cau yn y nos.
- Peidiwch â rhoi’r ddyletswydd o gofnodi dyddiadau bwydydd ar eich cyflenwyr.
- Ystyrir gwerthu neu gynnig gwerthu bwyd ar ôl y dyddiad defnyddio olaf yn drosedd gan y masnachwr, nid gan y cyflenwr.
- Bob amser cael gwared ar fwydydd os yw’r dyddiad defnyddio olaf wedi dod i ben. Rhowch y bwydydd hyn mewn cynhwysydd mewn rhan o’r safle sydd ddim yn agored i’r cwsmeriaid. Nodwch yn glir ar y cynhwysydd ‘Ddim ar werth’.
- Ystyriwch ostwng prisiau bwyd er mwyn eu gwerthu yn gyflym cyn i’r dyddiad ddod i ben.