Dirwy am beiriannau gamblo mewn siop sglodion
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Ebrill 2018
Mae perchennog siop sglodion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi talu mwy na £1,500 ar ôl gosod peiriannau gamblo y gallai plant fod wedi’u defnyddio.
Plediodd Paul Evans yn euog yn Llys Ynadon Caerdydd ar 15 Mawrth i dair trosedd o dan Ddeddf Gamblo 2005 ar ôl gosod y peiriannau yn ‘Paul’s Chippy’ yn Heol yr Ysgol, Ynysawdre.
Clywodd y llys y daethpwyd o hyd i’r peiriannau gan swyddogion trwyddedu o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yn ystod archwiliad arferol.
Cafodd Mr Evans ddirwy o £253 am un o’r troseddau, heb gosb ar wahân am y lleill. Gorchmynnwyd iddo dalu costau cyfreithiol o £350, costau ymchwilio o £920 a gordal dioddefwyr o £30, a ddaeth i gyfanswm o £1,553.
Caniataodd y llys fforffediad hefyd ar yr arian a gymerwyd o’r ddau beiriant a gorchymyn iddynt gael eu difa.
Mae yn erbyn y gyfraith i ddarparu peiriannau gemau mewn siopau prydau mynd allan, caffis, swyddfeydd tacsis neu unrhyw leoliad nad yw’n benodedig ar gyfer gamblo, lle gall plant ddod i gysylltiad â gamblo a pheiriannau ceiniogau anghyfreithlon.
Mae diogelu plant a phobl sy’n agored i niwed rhag gamblo yn amcan trwyddedu pwysig, a gweithiodd swyddogion trwyddedu o’r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir mewn partneriaeth agos â’r Comisiwn Hapchwarae i gyflawni’r erlyniad hwn.
Rwy’n gobeithio bod hyn yn neges glir ein bod yn gwneud mwy na pharhau i fod yn wyliadwrus, ac y byddwn bob tro yn cymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n torri cyfreithiau gamblo yn y modd hwn.
Dywedodd y Cynghorydd David Lewis, Cadeirydd Trwyddedu