Diolchwyd i staff gofal am ‘wneud gwahaniaeth’
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Gorffennaf 2021
Diolchwyd i staff gofal cartref ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am eu hymdrechion parhaus i roi cymorth hanfodol i gymunedau lleol.
Mae Arweinydd y Cyngor Huw David ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar, y Cynghorydd Nicole Burnett, wedi ymweld â gofalwyr i ddiolch iddynt yn bersonol mewn lleoliadau sy'n amrywio o Ddepo Bryncethin a chyfleuster Glyncynffig ym Mynydd Cynffig i unedau byw â chymorth newydd, pwrpasol ym Maesteg.
Mae'r ymweliadau'n dilyn adroddiad diweddar o arolygiaeth Gofal Cymru sydd wedi canmol y gwasanaeth ac wedi tynnu sylw at y ffordd y mae wedi cael adborth cadarnhaol am y gofal a'r cymorth y mae pobl yn eu derbyn.
Dywedodd y Cynghorydd Nicole Burnett: "Gyda hyd at 1,200 o bobl yn defnyddio'r gwasanaeth ar unrhyw un adeg, mae ymroddiad a phroffesiynoldeb ein staff gofal cartref wrth wraidd ei lwyddiant cyffredinol.
"Roedd hyn yn amlwg iawn yn ystod y cyfnod clo a heriau parhaus pandemig y coronafeirws, ac roedd yr Arweinydd a finnau’n meddwl ei bod yn bwysig dod allan i gwrdd â rhai o'r tîm a diolch iddynt yn bersonol am bopeth maent yn ei wneud.
“Rydym yn hynod falch o'n timau gofal, ac mae'r ymrwymiad a'r ymroddiad y maent yn parhau i'w dangos wedi'u hadlewyrchu yn yr adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru a'r sylwadau a gafwyd gan y bobl y maent yn eu cefnogi.
"Mae gofal cartref yn parhau i fod yn wasanaeth pwysig sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl leol, ac rydym wrthi'n annog mwy o bobl i ystyried sut y gallent ddod yn rhan o'n timau gofal mewn cymunedau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr."
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn recriwtio ar hyn o bryd ar draws ystod o rolau gofal cymdeithasol parhaol, dros dro ac achlysurol i helpu i gynyddu'r niferoedd yn ein timau.
Nid oes angen profiad na chymwysterau blaenorol ar gyfer pob un o'r rolau, ac mae gennym fwy o ddiddordeb mewn clywed gan bobl sydd â’r gwerthoedd, ymddygiadau ac agweddau cywir ar gyfer gweithio'n effeithiol a darparu gofal a chymorth i aelodau'r gymuned.
Gyda rhagor o fanylion ar gael ar wefan y cyngor, rwy'n gobeithio y bydd mwy o bobl yn ystyried ymuno â'r gwasanaeth pwysig a buddiol hwn.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Nadine Griffiths
Ymunodd Nadine Griffiths â'r cyngor fel plentyn 18 oed a gweithiodd yn y maes gofal preswyl i ddechrau. Mae hi bellach yn cefnogi oedolion ag anableddau ac yn dysgu sgiliau hanfodol iddynt fel y gallant fyw bywydau annibynnol.
Dywedodd Nadine: "Gadewais yr ysgol heb wybod beth roeddwn i wir eisiau ei wneud fel gyrfa. Gan ddilyn yn ôl troed fy mam, llwyddais i wneud cais am swydd mewn gofal preswyl, gan ofalu am oedolion ag anableddau dysgu.
"Ugain mlynedd yn ddiweddarach, rwy'n dal i wneud y gwaith rwyf wedi dysgu ei garu.
"Rwyf wedi bod yn hynod ffodus fy mod wedi gweithio gydag unigolion anhygoel drwy gydol y cyfnod hwn, ac mae eu brwdfrydedd, eu hymgyrch a'u cymeriad wedi gwneud fy swydd yn un hawdd.
"Mae fy angerdd dros y rôl wedi fy ysgogi a'm hannog, a fy swydd bresennol bellach yw arweinydd tîm cynorthwyol o fewn y gwasanaeth byw â chymorth.
"Mae gweithio drwy gydol y pandemig wedi bod yn heriol ac yn emosiynol dros ben, ond mae cael tîm cryf a rhyfeddol y tu ôl i mi wedi gwneud i'r cyfnod anodd hwnnw deimlo ychydig yn haws.
"Yn ogystal, mae gwylio'r bobl rydym yn eu cefnogi wrth iddynt dyfu, datblygu a llwyddo, yn gwneud y dyddiau anodd hynny i gyd yn werth chweil."
I gael mwy o fanylion am ein swyddi gwag mewn gofal cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i’r dudalen swyddi yn www.bridgend.gov neu chwiliwch am y swyddi gwag fydd yn cael eu rhannu bob wythnos ar dudalennau Facebook a Twitter y cyngor.