Dim pas = dim teithio ar fws ysgol i ddisgyblion Brynteg
Poster information
Posted on: Dydd Llun 23 Ebrill 2018
Mae cynllun treialu ‘Dim pas, dim teithio’ yn cael ei gyflwyno ar fysiau Ysgol Brynteg yn ystod tymor yr haf i wella diogelwch ar gludiant ysgol drwy leihau gorlwytho.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cyflwyno’r cynllun treialu – a allai gael ei gyflwyno wedyn mewn ysgolion uwchradd eraill – gan fod contractwyr cludiant wedi adrodd, ar nifer o achlysuron, bod nifer y disgyblion sy’n mynd ar eu bysiau yn llawer uwch na’r nifer sy’n gymwys.
Mae hyn wedi arwain at gerbydau gorlawn, ac o ganlyniad i hyn, at broblemau ymddygiad ar y bysiau a phryderon o ran diogelwch.
O’r wythnos hon ymlaen, dim ond disgyblion Ysgol Brynteg sy’n dangos i’r gyrrwr bas bws dilys, a gyflwynwyd gan yr awdurdod lleol, ar gyfer teithio o’r cartref i’r ysgol, ar bob taith a fydd yn cael teithio.
Mae’n rhaid i’r pas bws fod â dyddiad terfyn dilys ac mae’n rhaid i rif y llwybr gyfateb i rif y bws y mae’r disgyblion yn mynd arno.
Rydym ni’n darparu cludiant o’r cartref i’r ysgol i filoedd o ddisgyblion cymwys bob dydd ar draws y fwrdeistref sirol, ond mae pryderon wedi eu codi am broblemau diogelwch sy’n gysylltiedig â gorlwytho bysiau.
Rydym ni felly yn treialu cynllun ‘Dim pas, dim teithio’ y tymor hwn yn Ysgol Brynteg i fynd i’r afael â’r broblem, a byddem ni’n croesawu cefnogaeth gan rieni a disgyblion.
Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Dylai unrhyw ddisgybl o Ysgol Brynteg nad oes ganddo bas bws dilys gysylltu â thîm cludiant ysgol y cyngor ar 01656 642654 neu anfon neges e-bost at schooltransport@bridgend.gov.uk, a bydd unrhyw ddisgybl sy’n colli ei bas bws yn cael gofyn am bas dros dro am 10 diwrnod o swyddfa Ysgol Brynteg.