Dim newid i’r dreth gyngor wrth bennu cyllideb 2022-23
Poster information
Posted on: Dydd Iau 24 Chwefror 2022
Ni fydd y dreth gyngor yn cael ei chodi y flwyddyn nesaf, ac ni fydd toriadau i wasanaethau rheng-flaen yn rhan o gyllideb Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar gyfer 2022-23.
Bu i gyfarfod o’r Cyngor llawn a gynhaliwyd heddiw (dydd Mercher 23 Chwefror) gadarnhau sut bydd yr awdurdod lleol yn gwario ei gyllideb gros o £459m ar gyfer y flwyddyn i ddod, a pha wasanaethau fydd yn cael eu blaenoriaethu yn dilyn cynnydd sylweddol o 9.2 y cant o ran cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cytunodd yr aelodau i wario £2.5m ychwanegol ar sicrhau bod pob gweithiwr gofal yn cael cynnydd cyflog sy’n adlewyrchu’r cyflog byw go iawn, ac i roi £1.5m ychwanegol i ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig lleol bob blwyddyn.
Bydd gwasanaethau cymdeithasol plant, diogelu a gofal maeth yn derbyn £1.2m ychwanegol y flwyddyn, a bydd £650,000 ychwanegol ar gael i wasanaethau byw â chymorth ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
Bydd plant ag anghenion dysgu ychwanegol yn derbyn cefnogaeth arbenigol gwerth £465,000 ychwanegol y flwyddyn. Bydd £188,000 ar gael er mwyn darparu cefnogaeth ieuenctid ychwanegol ledled y fwrdeistref sirol, a bydd y gwasanaethau iechyd meddwl yn derbyn £147,000 ychwanegol y flwyddyn. Bydd cefnogaeth gwerth £2.1m y llynedd i bobl sydd wedi dod yn ddigartref ers dechrau’r pandemig ar gael ar gyfer 2022-23 hefyd.
Yn rhannau eraill o’r gyllideb, bydd cyfanswm o £131m ar gael i’r gwasanaethau Addysg a Chymorth i Deuluoedd, bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol a lles yn derbyn £78m, a gwaith yn yr ardal gyhoeddus megis parciau, glanhau strydoedd a chasglu a gwaredu gwastraff yn derbyn £22m.
Bydd trafnidiaeth, cynllunio ac adfywio yn derbyn £2.2m, a bydd £1.7m yn cael ei fuddsoddi i wasanaethau rheoliadol megis Trwyddedu, Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach.
I’r dyfodol, bydd dros £71.3m yn cael ei fuddsoddi i Fand B o raglen foderneiddio ysgolion parhaus y cyngor, sy’n darparu eiddo ysgol newydd a gwelliannau addysgol.
Mae’r gyllideb yn cynnwys cyllideb gyfalaf sy’n ymgorffori £6.8m o gyllid Llywodraeth Cymru. Ochr yn ochr â chyllid gan y cyngor, bydd hyn yn golygu bod £2m ychwanegol ar gael i adnewyddu’r rhwydwaith priffyrdd, £1.9m ar gael ar gyfer grantiau cyfleusterau anabl, £1.1m ar gyfer mân waith, a £400,000 ar gyfer goleuadau stryd a gwaith adnewyddu seilwaith pontydd.
Bydd hefyd yn galluogi’r cyngor i fuddsoddi £400,000 mewn offer TGCh newydd, £340,000 ar gyfer gwaith strwythurol priffyrdd, £250,000 ar gyfer gwaith ffyrdd tramwy, £200,000 er mwyn darparu arian cyfalaf yn allanol ar gyfer cynlluniau cyfalaf, £100,000 ar gyfer gwaith adnewyddu tai a chynlluniau eiddo gwag, a £50,000 ar gyfer prosiectau cymunedol amrywiol.
Y ogystal, bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu’n llawn y mentrau fydd yn darparu cinio ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgolion cynradd, a gofal plant am ddim i bob plentyn 2 oed.
Mae’r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at y setliad gorau y mae’r cyngor hwn wedi’i dderbyn ers dros ddegawd. Yn sgil hyn, rydym wedi llwyddo i greu cyllideb sy’n ceisio cefnogi pobl leol wrth iddynt wynebu anawsterau o ganlyniad i gynnydd mewn prisiau ynni a’r argyfwng costau byw. Gan fod swm yr arian rydym wedi’i dderbyn ar gyfer gwasanaethau yn sylweddol uwch na’r hyn roeddem wedi’i ddisgwyl, rydym wedi ceisio adlewyrchu hyn drwy beidio â newid y dreth gyngor a’i chadw ar y raddfa bresennol, ac osgoi rhoi toriadau pellach ar waith.
Rydym hefyd wedi blaenoriaethu a diogelu gwasanaethau y mae pobl wedi nodi sydd bwysicaf iddyn nhw, ac wedi ymrwymo cyllid ychwanegol i ysgolion a gofal cymdeithasol ar gyfer yr henoed, plant a phobl agored i niwed. Yr her o osod cyllideb gytbwys mor fawr â hyn yw sicrhau bod gennym ddigon o adnoddau ar waith sy’n gallu cyflawni gwasanaethau yn effeithiol, wrth gadw pobl yn ddiogel a sicrhau sefyllfa deg i drethdalwyr.
Wrth ddatblygu a chytuno ar y gyllideb hon, credaf ein bod wedi cyflawni hyn ar gyfer y bobl rydym yn eu gwasanaethu, yn enwedig gan ein bod hefyd wedi gallu ymgorffori rhaglen iach o fuddsoddi cyfalaf ar gyfer y flwyddyn i ddod a blynyddoedd yn y dyfodol, gan gynnwys ein rhaglen foderneiddio ysgolion yr 21ain ganrif, cyfleusterau gofal plant newydd, gwaith adnewyddu sylweddol ar y ffyrdd, a phrosiectau adfywio yng nghanol ein trefi.
Arweinydd y Cyngor, Huw David
Dyma gyllideb a fydd yn amddiffyn ac yn blaenoriaethu’r rheiny sydd â’r anghenion mwyaf, a chynnig buddsoddiadau mawr i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a sicrhau ein bod yn gallu bodloni heriau'r flwyddyn i ddod. Mae gosod cyllideb gytbwys yn hanfodol i unrhyw gyngor er mwyn gallu gweithio’n iawn. Yn aml, mae pobl yn tybio bod y dreth gyngor yn talu am bopeth. Mewn gwirionedd, dim ond 19 ceiniog o bob punt sy’n cael ei wario y mae’n cynrychioli.
O ystyried y ffaith y byddwn yn gwario 58 ceiniog ym mhob punt ar addysg, ysgolion a gofal cymdeithasol, mae’n helpu i roi’r sefyllfa yn ei chyd-destun ac yn arddangos maint a chwmpas anferth y gyllideb flynyddol. Yn hyn o beth, hoffwn gydnabod cyfraniadau adeiladol yr aelodau etholedig at y broses hon drwy’r panel trawsbleidiol adolygu a gwerthuso’r gyllideb a’r pwyllgor trosolwg a chraffu.
Hefyd, hoffwn ddiolch i’r cyhoedd am gymryd rhan yn ein hymgynghoriad blynyddol ar y gyllideb, ac am helpu i lywio cynllunio gwariant y cyngor ar gyfer y flwyddyn i ddod. Unwaith eto, mae’r gyllideb hon yn adlewyrchu ein holl waith cynllunio gofalus, dyheadau ac uchelgeisiau, a hoffwn roi sicrwydd i breswylwyr y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau hanfodol.”
Dirprwy Arweinydd, Hywel Williams