Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Depo priffyrdd newydd i ryddhau tir ar gyfer datblygiad tai mawr

Bydd depo priffyrdd newydd sbon yn cael ei adeiladu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn Nhredŵr ym Mhen-y-bont ar Ogwr, gan ryddhau tir ar gyfer datblygiad tai mawr.

Y llynedd, cafodd y mwyafrif o hen ddepo adfeiliedig y cyngor ei ddymchwel ynghyd â rhai adeiladau eraill ar yr un safle, sydd ychydig oddi ar yr A473.

Ers hynny, mae'r awdurdod lleol wedi rhannu ei waith yn y depo rhwng yr hyn sydd ar ôl yn Nhredŵr ac ail ddepo ym Mryncethin, wrth gau amryw o ddepos llai eraill mewn mannau eraill yn y fwrdeistref sirol.

Heddiw, mae cynghorwyr wedi cytuno bod cyfleuster modern newydd yn hanfodol er mwyn darparu gwasanaethau priffyrdd mor effeithiol â phosibl.

Fodd bynnag, bydd y depo newydd yn llai na'r hyn a gynllunnir yn wreiddiol yn 2016, gan fwyhau maint y tir sydd ar werth i alluogi datblygiad tai Parc Afon Ewenni i symud ymlaen.

Bydd yr arian a dderbyniwyd o werthu tir llwyd ar gyfer y datblygiad tai yn Nhredŵr yn cyfrannu at gostau'r depo, felly mae ailddatblygu depo bach ar ddarn o'r safle presennol yn gwneud y defnydd gorau o'r tir a'r adnoddau sydd ar gael o ystyried yr hinsawdd ariannu gyfredol.

Bydd yn darparu depo â chyfleusterau modern a chyfoes i ni a fydd yn diwallu anghenion fflyd priffyrdd y 21ain ganrif am nifer o flynyddoedd i ddod.

Bydd y depo yn darparu ar gyfer ystod eang o gerbydau cynnal a chadw priffyrdd sydd yn hanfodol i gynnal gwaith ffordd, cynnal a chadw goleuadau stryd, graeanu a mwy. Byddwn hefyd yn siarad â sefydliadau eraill yn y sector cyhoeddus i weld a yw costau'n gallu cael eu lleihau trwy rannu'r cyfleuster.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

Chwilio A i Y