Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dechrau ymgynghori ynglŷn â chaeau chwaraeon a phafiliynau

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi lansio un o’i ymgynghoriadau mwyaf erioed, gan wahodd safbwyntiau a fydd yn helpu i lunio dyfodol caeau chwaraeon, pafiliynau, torri gwair a meysydd chwarae.

Gydag awdurdodau lleol yn wynebu gwasgfa ddigyffelyb ar eu cyllidebau, mae’r cyngor yn rhagweld y bydd angen gwneud arbedion o £36.4m dros y pedair blynedd nesaf, yn ychwanegol at y miliynau y mae eisoes wedi’u harbed.

Er mwyn ei helpu i gyrraedd yr arbedion sydd eu hangen a chydbwyso’r gyllideb, mae’r Cyngor wedi egluro na fydd yn gallu darparu'r un lefel o wasanaethau yn uniongyrchol mwyach, mae’n awyddus iawn i siarad â mwy o glybiau rygbi, pêl-droed a chriced ynglŷn â’r posibilrwydd iddyn nhw ysgwyddo’r baich o redeg y caeau chwaraeon a’r pafiliynau y maen nhw’n eu defnyddio.

Ar gyfartaledd, mae’r incwm a dderbynnir gan y cyngor o godi arian ar ddefnyddwyr ei gaeau chwaraeon a’i bafiliynau yn gwneud 20 i 25 y cant yn unig o’i wir gostau o ddarparu a chynnal a chadw’r cyfleusterau, ac felly mae’r cyngor yn nodweddiadol yn darparu cymhorthdal ariannol o hyd at 80 y cant.

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i gynllunio i ddarparu gwybodaeth ynglŷn â’r ffyrdd y gallwn ni gadw cyfleusterau cymunedol poblogaidd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae cyni cenedlaethol yn parhau, ac rydym ni wedi egluro cymaint ag sy’n bosibl wrth breswylwyr am y sefyllfa ariannol sy’n wynebu’r cyngor hwn a phob cyngor arall.

Nid yw’n ddigon dweud bod rhywbeth yn boblogaidd neu’n cael ei ddefnyddio yn helaeth yn awr – gwirionedd y sefyllfa yw na allwn ni barhau i ddarparu cymhorthdal i gaeau chwaraeon a phafiliynau ar lefel o’r fath, yn ogystal â’r buddsoddiad sydd ei angen i sicrhau bod cyfleusterau yn parhau i gwrdd â safonau angenrheidiol.

Rydym ni angen gweithio gyda’n gilydd i ddarganfod ffordd amgen o gadw’r cyfleusterau cymunedol gwerthfawr hyn. Os nad ydym ni yn gwneud hyn, byddwn yn cael ein gorfodi i sefyllfa lle y bydd angen cau’r cyfleusterau. Nid yw’r cyngor eisiau i hynny ddigwydd, ac felly mae’n rhaid inni ddod o hyd i ffordd er mwyn cynnig y cyfleusterau heb ddibyniaeth ariannol o’r fath ar y cyngor. Rydym ni’n croesawu ffyrdd newydd ac arloesol o gyflawni gwasanaethau hanfodol, a gobeithiwn weithio mewn partneriaeth agosach â chlybiau a sefydliadau chwaraeon lleol.

Cynghorydd Richard Young, Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod o’r Cabinet dros Gymunedau: “Er mwyn helpu i ddatblygu’r broses hon, lansiwyd yr ymgynghoriad hwn i godi mwy o ymwybyddiaeth o’r benbleth yr ydym ni yn ei hwynebu. Rydym ni eisiau cael yr holl ffeithiau a chael darlun cyflawn cyn cymryd y penderfyniadau caled sydd o’n blaenau.

“Yn ystod ymgynghoriad ar gyllideb y llynedd, sef ‘Llunio Dyfodol Pen-y-bont Ar Ogwr, dywedodd 60% o ymatebwyr yr arolwg y bydden nhw’n cefnogi cynnydd mewn costau ar gyfer caeau chwaraeon a phafiliynau os byddai’n helpu i warchod gwasanaethau rheng flaen hanfodol y cyngor.

“Yn awr, rydym ni eisiau ymchwilio ychydig yn ddyfnach i hyn er mwyn darganfod yr effaith y byddai cynnydd mewn costau hurio yn ei gael ar chwaraeon lleol a gweithgaredd corfforol. Pa mor dderbyniol a fyddai cynnydd mewn costau mewn gwirionedd?   A oes yna fwy o glybiau ar gael a fyddai’n fodlon ystyried Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol i ysgwyddo’r baich o redeg y cyfleusterau, un ai ar gytundeb rheoli tymor byr neu am brydles tymor hirach?

“Rydym yn gofyn i glybiau chwaraeon a holl ddefnyddwyr y cyfleusterau hyn i gwblhau’r yngynghoriad, a chael dweud eu dweud ynglŷn â’r materion hyn.”

Yn ogystal â chaeau chwaraeon a phafiliynau, mae’r ymgynghoriad hefyd yn gofyn am farn ynglŷn â dau o destunau pwysig eraill.

Lleoedd chwarae

Mae’r cyngor yn darparu 108 o leoedd chwarae i blant sy’n cynnwys cyfarpar chwarae sefydlog, fel siglenni, sleidiau, chwyrligwganod, siglwyr a fframiau dringo. Mae’r cyngor yn talu am ddisodli hen gyfarpar, cyfarpar sydd wedi’i ddifrodi a chyfarpar sydd wedi cael ei fandaleiddio.

Tra bod rhai lleoedd chwarae yn cael eu defnyddio llawer, nid yw eraill mor boblogaidd ac maen nhw’n dioddef fandaliaeth ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn rheolaidd.

Yn yr ymgynghoriad, bydd gofyn i breswylwyr ddweud faint y maen nhw’n gwerthfawrogi eu cyfleusterau lleol eu hunain, a chael dweud eu dweud ynghylch a ddylai’r cyngor atgyweirio cyfarpar sy’n cael ei fandaleiddio yn rheolaidd, neu ganolbwyntio mwy ar wella’r meysydd chwarae mwyaf poblogaidd.

Torri Gwair

Mae’r cyngor yn rheoli nifer o wahanol safleoedd a mannau gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys parciau ffurfiol, fel Parc Griffin a Pharc Lles Maesteg, mannau agored mewn ardaloedd preswyl, glaswellt ar ochr y ffyrdd, a chaeau chwarae, fel Caeau Newbridge, Caeau Chwarae Llangynwyd a Locks Lane.

Gan fod gostyngiadau yn y gyllideb, mae’r Cyngor yn ystyried torri gwair yn llai aml yn y safleoedd hyn. Awgrymwyd dau ddewis er mwyn cael sylwadau…

  • Cynnig un: Torri gwair yn llai aml mewn mannau agored ac ar ochr y ffyrdd, o saith gwaith i bum gwaith y flwyddyn
  • Cynnig dau: Torri gwair yn llai aml mewn parciau, caeau chwarae, mannau agored achlysurol, ardaloedd preswyl, mannau chwarae pêl a lleoedd chwarae i blant, o 16 gwaith i 12 gwaith y flwyddyn.

Bydd yr ymgynghoriad yn agored tan 10 Gorffennaf 2019 ac ewch i lle gellir ei gwblhau ar-lein.

Mae copïau papur a fformatau amgen hefyd ar gael drwy alw 01656 643664 neu drwy anfon e-bost at consultation@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y