Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dechrau pennod newydd i adeilad hanesyddol ym Mhorthcawl

Mae un o adeiladau mwyaf eiconig Porthcawl yn cael diwyg newydd ffres ar gyfer ei ben-blwydd yn gant oed.

Mae gwaith ar y gweill yn Adeilad Harlequin yn Dock Street sy’n adfer y tirnod lleol adnabyddus yn ôl i’w ogoniant hanesyddol.

Mae’r strwythur yn cael ei gryfhau fel y gellir ei addasu at safonau cynllunio modern, gyda tho, ffenestri a drysau newydd sbon ac adnewyddu’r tu mewn yn gyfan gwbl er mwyn gwneud yr adeilad yn addas ar gyfer defnydd masnachol.

Mae’r prosiect sy’n werth £143,000 yn cael ei gyllido gan Fenter Treftadaeth Trefwedd a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae contractwyr eisoes ar y safle a disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn gynnar yn 2020.

Rydw i wrth fy modd yn gweld y darn olaf o jig-so adfywio Porthcawl yn cael ei gwblhau.

Mae’r Harlequin yn dirnod poblogaidd a gerir yn fawr ym Mhorthcawl, a chyda cyfnod nesaf ein cynllun adfywio yn canolbwyntio ar ardal Salt Lake, bydd yn safle gwych ar gyfer busnes addas.

Gwnaethom ddweud y byddem yn edrych ar yr Harlequin pan oeddem ni’n ailystyried cynlluniau adfywio’r dref, ac mae’r gwaith hwn yn cyflawni’r addewid honno. Gyda’i amddiffynfeydd arfordirol a gwblhawyd yn ddiweddar, Canolfan Chwaraeon Dŵr newydd yn paratoi i agor yn Rest Bay a gwaith yn bwrw ymlaen yn yr Harlequin, mae Porthcawl yn llawn o brosiectau sydd wedi cael eu cynllunio i fwyhau ei botensial fel lle i fyw, gweithio neu ymweld.

Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod o’r Cabinet dros Adfywiad

Wedi’i adeiladu yn 1920 gan Syr Thomas Jones, defnyddiwyd yr adeilad yn wreiddiol gan werthwyr tai cyn dod yn eiddo i Reilffordd y Great Western, lle y cafodd ei ddefnyddio fel swyddfa gorsaf-feistr Rheilffordd Porthcawl ac yn ddiweddarach fel swyddfa nwyddau’r rheilffordd.

Ar ôl cael gwared â chyswllt rheilffordd Porthcawl yn dilyn ailstrwythuro yn 1965, bu’r adeilad yn gartref i nifer o wahanol fusnesau, gan gynnwys siop ffrogiau a siwtiau adnabyddus o’r enw Madge a siop hen gelfi a roddodd ei henw yn ddiweddarach i’r adeilad.

Harlequin Antiques oedd y busnes olaf i ddefnyddio’r adeilad cyn i’r siop honno gau yn 2005.

• Chwiliwch am fwy o newyddion cyn bo hir.

Mae un o adeiladau mwyaf eiconig Porthcawl yn cael diwyg newydd ffres ar gyfer ei ben-blwydd yn gant oed.

Chwilio A i Y