Dau gynllun newydd yn lansio yn fuan i gynorthwyo pobl i hunanynysu
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 30 Hydref 2020
Bydd pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu am hyd at 14 diwrnod yn gymwys am gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru ar ôl cyhoeddi dau gynllun newydd heddiw.
Gall pobl ar incwm isel wneud cais i gael taliad o £500 os ydynt wedi cael prawf positif am coronafeirws neu y gofynnwyd iddynt hunanynysu gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru oherwydd eu bod wedi bod mewn cyswllt agos â rhywun sydd wedi profi'n bositif am coronafeirws.
Ac mae taliad atodol yn cael ei gyflwyno ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol yng Nghymru, i gynyddu tâl salwch statudol i'w cyflogau arferol os oes gofyn iddynt beidio â mynd i'r gwaith oherwydd bod ganddynt coronafeirws neu eu bod yn hunanynysu.
Mae hyd at £32m yn cael ei ryddhau gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y ddau gynllun i gefnogi pobl a chael gwared ar rwystrau ariannol a wynebir gan bobl y mae gofyn iddynt hunanynysu.
Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar bawb ac rydym wedi gofyn i bobl aberthu cymaint eleni, gan gynnwys yn ystod y cyfnod clo atal diweddaraf hwn. Rydym yn ymrwymedig i wneud popeth y gallwn i gefnogi pobl a gwarchod iechyd a llesiant pobl.
Mae gofyn i bobl hunanynysu yn ffordd bwysig o dorri lledaeniad y firws, ond i lawer o bobl gall olygu colli incwm. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i warchod ein hiechyd ein hunain a'n hanwyliaid hefyd ond gwyddom pa mor anodd gall hynny fod pan gawn ein hwynebu â'r dewis rhwng aros gartref a pheidio â gallu bwydo eich teulu neu fynd i'r gwaith.
Mae'r cynlluniau cymorth newydd hyn wedi'u targedu tuag at bobl sydd ar incwm isel ac wedi'u dylunio i oresgyn rhai o'r pwysau ariannol mae pobl yn eu hwynebu os gofynnir iddynt hunanynysu.
Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford
Bydd taliad penodol o £500 ar gael i bobl y gofynnir iddynt hunanynysu oherwydd eu bod wedi profi'n bositif am coronafeirws neu oherwydd eu bod wedi'u hadnabod yn gyswllt agos gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
Mae'r taliad ar gael i bobl ar incwm isel nad ydynt yn gallu gweithio gartref ac a fyddai'n colli incwm oherwydd eu bod yn hunanynysu. Er mwyn bod yn gymwys, rhaid i bobl fod yn hunanynysu a derbyn Credyd Cynhwysol neu fudd-dal penodol arall.
Mae'r trefniadau terfynol yn cael eu gwneud er mwyn i'r cynllun fynd yn fyw.
Bydd pobl yn gallu gwneud cais am y taliadau drwy wefan eu hawdurdod lleol cyn gynted â bod y cynllun yn lansio gyda thaliadau yn cael eu hôl-ddyddio i Hydref 23.
Bydd y cynllun Ychwanegiad at Dâl Salwch Statudol ar gyfer staff gofal cymdeithasol sy'n gweithio mewn cartrefi gofal, gofal cartref ac fel cynorthwywyr personol yn dechrau ar 1 Tachwedd hyd at 31 Mawrth 2021.
Bydd y cynllun yn cynyddu tâl salwch statudol i dâl llawn gweithwyr gofal cymwys os oes angen iddynt gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith oherwydd eu bod wedi'u heintio a choronafeirws neu eu bod yn amau bod ganddynt coronafeirws neu eu bod yn hunanynysu oherwydd bod rhywun yn eu haelwyd wedi'i heintio â choronafeirws neu mae gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru wedi gofyn iddynt am wneud hynny.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: "Os gofynnir i chi hunanynysu, nid yw gweithio gartref yn opsiwn i bawb, gan wneud hyn yn gyfnod hyd yn oed yn fwy dirdynnol i bobl. Gall rhai pobl deimlo dan bwysau i fynd i'r gwaith, dim ond er mwyn talu biliau.
"Bydd y taliad hunanynysu o £500 a'r cynllun cynyddu tâl salwch statudol yn ein cynorthwyo ni i ddiogelu'r bregus a rhoi'r diogelwch ariannol sydd ei angen ar bobl i aros gartref a thorri'r lledaeniad.
"Bydd rhai pobl na fydd yn bodloni'r meini prawf ar gyfer y taliad £500 ond a fydd yn dioddef caledi ariannol oherwydd y gofynnwyd iddynt hunanynysu. Dyma pam yr ydym wedi cyflwyno elfen ddewisol i'r taliad hunanynysu, a fydd ar gael i grŵp ehangach o bobl."
Mae cymorth ariannol eisoes ar gael i bobl drwy elfen caledi coronafeirws y Taliad Cymorth mewn Argyfwng o'r Gronfa Cymorth Dewisol.
Ochr yn ochr â dau gynllun arall, bwriad Llywodraeth Cymru yw cryfhau rheoliadau coronafeirws drwy gyflwyno gofyniad cyfreithiol i bobl hunanynysu os dywedir wrthynt am wneud hynny gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
Bydd y rheoliadau hefyd wedi'u cryfhau i'w wneud yn anghyfreithlon rhoi gwybodaeth ffug yn fwriadol i wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru.
A bydd dyletswydd yn cael ei gyflwyno i sicrhau na all cyflogwyr atal cyflogai rhag dilyn cyngor y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru i hunanynysu.
Bydd y ddau gynllun hyn yn ffurfio rhan bwysig o'r cymorth cenedlaethol a mesurau a fydd yn cael eu cyflwyno ar ôl y cyfnod clo atal.