Dau grŵp blwyddyn i ddysgu o adref ar ôl i achosion Covid-19 gael eu cadarnhau
Poster information
Posted on: Dydd Llun 07 Rhagfyr 2020
Bydd disgyblion mewn dau grŵp blwyddyn mewn ysgol ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dysgu o adref tan ddiwedd y tymor ar ôl i bum prawf positif o Covid-19 gael eu cadarnhau.
Ni fydd myfyrwyr ym Mlynyddoedd 11 a 13 yn Ysgol Gyfun Bryntirion yn dychwelyd i'w hystafelloedd dosbarth tan ar ôl gwyliau'r Nadolig ar ddydd Mawrth, 5 Ionawr, i'w galluogi i hunanynysu.
Cafwyd dau achos positif ym Mlwyddyn 13 a thri ym Mlwyddyn 11.
Dywedodd Charles Smith, aelod cabinet dros addysg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: "Er mwyn caniatáu i ddisgyblion sydd wedi dod i gysylltiad â'r rhai sydd wedi profi'n bositif i hunanynysu, mae'r penderfyniad wedi'i wneud i ddychwelyd i ddysgu o adref ar gyfer y ddau grŵp blwyddyn yma.
"Mae rhieni a gofalwyr wedi cael gwybod am y sefyllfa, ac mae athrawon yn yr ysgol wedi gosod gwaith i fyfyrwyr ei wneud yn ddigidol tra byddant gartref."