Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Dathliadau yn nodi datblygiadau yn Frog Pond Wood

Mae hi’n gyfnod prysur yng Ngwarchodfa Natur Frog Pond Wood, sydd bellach yn safle rhyddhau ar gyfer draenogod sydd wedi eu hadsefydlu. Mae’r safle wedi ymestyn ei ffiniau hefyd fel gwarchodfa natur, ac wedi darparu amgylchedd dysgu awyr agored ar gyfer meithrinfa leol Little Acorns. 

Ar Ddydd Gwener 5 Mai, bu i gynghorwyr lleol ymgynnull yn y warchodfa er mwyn dathlu cyfeiriad positif y safle - yn enwedig ynglŷn â phartneriaeth y cyngor gyda Glamorgan Hedgehog Rescue, sydd wedi galluogi’r warchodfa i ddod yn safle rhyddhau draenogod sydd wedi eu hachub.

Mae Glamorgan Hedgehog Rescue yn trin dros 200 o ddraenogod sydd yn sâl neu wedi eu hanafu bob blwyddyn, ond nid oes llawer ohonynt yn gallu dychwelyd i’w safle gwreiddiol, am amryw o resymau.  Golyga hyn bod angen sicrhau safleoedd addas er mwyn gallu rhyddhau’r draenogod.

Mae gwarchodfeydd natur yn cael eu dewis yn seiliedig ar eu hansawdd, hamrywiaeth, maint a diogelwch y cynefinoedd dan eu gofal.  Cyn i unrhyw ddraenog gael ei ryddhau, bydd angen iddo fod yn ffit, iach ac yn ddiglefyd. 

Mae’r bartneriaeth rhwng y cyngor a Glamorgan Hedgehog Rescue yn ffurfio rhan o'r Prosiect Rhwydwaith Natur Cwm Taf (RhNCT).  Mae’n rhan o fenter sydd wedi’i hariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o'r ‘Cynllun Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant’.

Dywedodd llefarydd dros Glamorgan Hedgehog Rescue: “Rydym yn hynod falch o gael ein gwahodd yma heddiw gan Feithrinfa Little Acorns ac o gael gweithio gyda phlant i ddatblygu dealltwriaeth o ddraenogod, ac o fywyd gwyllt yn gyffredinol.  Cawsom fore arbennig iawn, a llwyddom i leoli blwch nythu arall i ddraenogod o fewn eu hardal naturiol. Hoffwn ddiolch i Rwydwaith Natur Cwm Taf ac i Huw David OBE, Arweinydd y Cyngor, ac i’r Cynghorydd Mike Kearn a’r Cynghorydd Spanswick am eu cefnogaeth.”

Rydym yn ffodus iawn bod ein Gwarchodfa Natur Frog Pond Wood yn gallu hwyluso gwaith mor arbennig.

Ymddengys bod y warchodfa natur yn gallu cyflawni anghenion, nid yn unig Glamorgan Hedgehog Rescue, ond hefyd y gymuned yn ehangach drwy ddatblygu ei rôl o fewn y gymuned drwy’r prosiectau dysgu sy’n digwydd yma - wedi’i gefnogi gan gyllid y RhNCT.

Mae'r RhNCT yn gweithio’n agos gyda meithrinfa Little Acorns er mwyn datblygu esiamplwyr ar gyfer dysgu yn y Blynyddoedd Cynnar, sy’n darparu cwricwlwm cyfoethog yn cynnwys llwybr rhyngweithiol ar gyfer y blynyddoedd cynnar i’w sefydlu o fewn Frog Pond Wood.

Bydd y defnydd o’r awyr agored yn llywio dychymyg a chreadigrwydd, ac yn hyrwyddo parch tuag at yr amgylchedd naturiol a’i holl breswylwyr – gwerth sylweddol dros ben.

Cynghorydd John Spanswick, yr Aelod Cabinet dros Gymunedau

Ewch i’n gwefan am fwy o wybodaeth ynghylch Rhwydwaith Natur Cwm Taf.

I wybod mwy ynghylch amddiffyn draenogod, ewch i wefan Glamorgan Hedgehog Rescue

 

Chwilio A i Y