Dathliadau'r Nadolig eleni
Poster information
Posted on: Dydd Iau 26 Tachwedd 2020
Bydd preswylwyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gallu dathlu'r Nadolig yn ddiogel fel rhan o drefniadau newydd eu cyhoeddi i Gymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr.
Bydd y cynllun 'pedair cenedl' yn galluogi hyd at dair aelwyd wahanol i ffurfio swigen dros dymor yr ŵyl.
Bydd pob un o'r swigod Nadolig hyn yn gallu cwrdd gartref, mewn man addoli neu mewn man cyhoeddus yn yr awyr agored, ond ni ellir eu hymestyn ymhellach i gynnwys aelwydydd eraill ar unrhyw adeg.
I gefnogi hyn a galluogi teuluoedd a ffrindiau i ffurfio swigod Nadolig, bydd cyfyngiadau teithio rhwng y pedair cenedl yn cael eu llacio rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
Bydd angen i gyfyngiadau o ran tafarndai, siopau, caffis, bwytai a busnesau lletygarwch eraill aros yn eu lle i sicrhau y gall pobl ddathlu'n ddiogel.
Mae wedi bod yn flwyddyn anodd iawn, ac rwy'n sicr bod pawb ohonom yn edrych ymlaen at y Nadolig. Gyda'r pandemig byd-eang parhaus a mwy na 55,000 o farwolaethau yn sgil y coronafeirws yn y DU hyd yn hyn, yr anrheg orau y gallwn ei rhoi i rywun eleni yw helpu i'w cadw'n ddiogel. Bydd y trefniadau newydd eu cyhoeddi ar gyfer y Nadolig yn rhoi cyfle i ni dreulio amser gyda theulu, ffrindiau ac anwyliaid, ond mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod yn gwneud hynny mewn modd diogel, cyfrifol.
Os ydych yn bwriadu ffurfio swigen tair aelwyd, byddwch yn ystyriol o'r risgiau i chi eich hunain ac eraill, yn enwedig unrhyw un a all fod yn fregus. Mae'n rhaid i bawb feddwl yn ofalus am eu gweithredoedd, a sicrhau eu bod yn cydbwyso cyswllt â theulu a ffrindiau yn erbyn y risg o amlygiad i'r coronafeirws.
I rai, efallai y bydd yn haws dathlu mewn ffordd wahanol - er enghraifft, drwy ddod ynghyd ar-lein, neu gyfarfod yn yr awyr agored lle gallwch gadw pellter cymdeithasol. Fodd bynnag os ydych yn bwriadu dathlu'r Nadolig eleni, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i gadw eich teulu, eich ffrindiau a chi eich hunain yn ddiogel.
Gan groesawu'r trefniadau, dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr