Datganiad yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II 1926 – 2022
Poster information
Posted on: Dydd Iau 08 Medi 2022
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Balas Buckingham am farwolaeth Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II, mae Maer ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi talu teyrnged ar ran y gymuned leol.
Gyda thristwch fe glywsom am farwolaeth y teyrn a wasanaethodd Brydain am y cyfnod hiraf, sef Ei Mawrhydi Brenhines Elizabeth II.
Er i’w marwolaeth fod yn golled enfawr i’r Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, gadawa ar ei hôl etifeddiaeth o gryfder ac ysbrydoliaeth.
Ar ran pobl Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, rydym yn anfon ein cydymdeimlad dwysaf i Ei Fawrhydi y Brenin Charles a’r Teulu Brenhinol.
Y Cynghorydd Martyn Jones, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr: “Drwy gydol ei bywyd, gwasanaethodd y Frenhines Elizabeth II ei theulu a’i gwlad mewn modd cwbl anhunanol.
“Yn dilyn ei marwolaeth drist, mae cyfnod o alaru cenedlaethol bellach yn ei le, ac fel arwydd o barch, bydd baneri Swyddfeydd y Cyngor ar Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gostwng i’r hanner.
“Byddwn yn cyflwyno rhagor o gyhoeddiadau dros y dyddiau nesaf, ac mae ein meddyliau a’n cydymdeimladau gyda’r Teulu Brenhinol yn parhau yn ystod y cyfnod trist hwn.”
I anfon neges o gydymdeimlad ar-lein, ewch i wefan y Teulu Brenhinol.