Datganiad gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr parthed: dedfrydu llofruddwyr Logan Mwangi
Poster information
Posted on: Dydd Iau 30 Mehefin 2022
Mae Arweinydd a Phrif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyhoeddi datganiad ar ôl i Angharad Williams, John Cole a Craig Mulligan gael eu dedfrydu yn dilyn llofruddiaeth Logan Mwangi a oedd yn bum mlwydd oed.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, Huw David: "Mae marwolaeth Logan Mwangi yn bum mlwydd oed wedi bod yn achos hynod drist a thrasig sydd wedi effeithio ar bawb sy’n byw o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
"Mae trigolion Sarn a'r gymuned ehangach, disgyblion, athrawon, staff a llywodraethwyr ysgol Logan a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn ei adnabod, ein partneriaid sy'n gweithio o fewn iechyd, swyddogion archwilio Heddlu De Cymru a nifer eraill wedi uno yn eu cydymdeimlad a galar.
"Mae pob un ohonom yn condemnio gweithredoedd dychrynllyd yr unigolion a roddodd ddiwedd ar fywyd byr Logan mewn modd mor greulon a brwnt, a'u hymdrech faith i geisio cuddio tystiolaeth o'u gweithredoedd oddi wrth yr awdurdodau.
"Drwy gydol achos llys ei lofruddwyr, roedd Logan yn cael ei ddisgrifio fel bachgen bach cariadus, caredig a gofalgar, yn gwrtais ac yn boblogaidd ymysg ei ffrindiau a’i gyd-ddisgyblion.
"Wrth wrando ar deyrngedau gan dad Logan a'i ysgol, roedd yn amlwg ei fod yn fachgen a oedd yn dod â llawer o lawenydd a chwerthin i fywydau'r bobl roedd yn eu cyfarfod, ac mae'n anodd dod o hyd i'r geiriau i egluro pa mor ofnadwy yw bod llofruddiaeth o'r fath wedi gallu digwydd yn ein bwrdeistref sirol.
"Mae'r dedfrydu heddiw'n dangos bod yr unigolion sy'n gyfrifol wedi gorfod wynebu goblygiadau eu troseddau.
"Hoffem ddiolch i Heddlu De Cymru am arwain yr ymchwiliad i farwolaeth Logan, ac am sicrhau bod ei lofruddwyr yn wynebu cyfiawnder.
"Mae marwolaeth plentyn ifanc bob amser yn ofidus, ond yn enwedig pan fo'n digwydd dan amgylchiadau mor ofnadwy.
"Mae Sarn a'r fwrdeistref sirol ehangach yn parhau i fod yn gymuned glos, lle mae trigolion a chymdogion yn gofalu am ei gilydd, ac mae cynnal cysylltiadau cymunedol clos yn ystod digwyddiadau trasig fel hyn yn parhau i fod yn hynod bwysig, nawr yn fwy nag erioed."
Ychwanegodd y Prif Weithredwr Mark Shephard: "Nawr bod yr achos llys wedi dod i ben, mae Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn arwain y gwaith o gomisiynu adolygiad o arfer plant er mwyn galluogi asiantaethau perthnasol i asesu ac ystyried eu rolau'n llawn, ac i bennu a oes modd gwneud unrhyw welliannau i atgyfnerthu safon gyffredinol gwasanaethau lleol.
"Gan fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymryd rhan lawn yn y broses hon, ni allwn gynnig sylwadau pellach neu geisio achub y blaen ar beth all canfyddiadau'r adolygiad cynhwysfawr a diduedd fod.
"Rydym yn disgwyl am ganfyddiadau'r adolygiad, ac ynghyd â'n partneriaid, byddwn yn rhoi unrhyw argymhellion y gallai eu cynnwys ar waith, er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cynnig y gwasanaethau gorau, mwyaf effeithiol posibl ar gyfer y gymuned leol.
"Mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda Logan, a phawb oedd yn ei adnabod a’i garu. Mae ei farwolaeth drasig wedi cael effaith ar bob un ohonom, ac mae ystod eang o wasanaethau cymorth ar gael yn ystod y cyfnod heriol hwn.
"Caiff trigolion eu hatgoffa y gallant roi gwybod am bryderon y gallai rhywun fod yn profi unrhyw fath o niwed, drwy ffonio 01656 642477 ar gyfer oedolion, a 01656 642320 ar gyfer plant, rhwng 8.30am-5pm o ddydd Llun i ddydd Iau, ac 8.30am-4.30pm ar ddydd Gwener.
"I gysylltu â gwasanaethau gofal cymdeithasol y tu allan i'r oriau hyn, dros benwythnosau neu yn ystod gwyliau banc, ffoniwch Dîm Dyletswydd Brys Cwm Taf Morgannwg ar 01443 743665.
"Os ydych chi'n credu bod rhywun mewn perygl uniongyrchol o niwed sylweddol, dylech ffonio 999 a siarad â'r heddlu."
Mae manylion pellach ynghylch cymorth ar gael ar wefan y cyngor, www.bridgend.gov.uk, neu drwy gysylltu â'r sefydliadau canlynol: