Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Darparu cyfleusterau tolied ychwanegol dros dro ym Mhorthcawl

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Tref Porthcawl i helpu i ddarparu cyfleusterau toiled ychwanegol dros dro yn y dref.

Gyda nifer o gaffis, tafarndai a bwytai ddim ar agor yn llawn o ganlyniad i gyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru, mae llai o doiledau ar gael i ymwelwyr o dan gynllun cysur yr awdurdod lleol sy'n cynnwys grantiau bach i fusnesau lleol yn gyfnewid am agor eu toiledau i gwsmeriaid nad ydynt yn talu.

Yn gynharach y mis hwn, sicrhawyd bod toiledau dros dro ar gael yng Nghanolfan Gymunedol Parc Griffin yn ogystal â'r pafiliwn chwaraeon yng Nghaeau Chwarae Rest Bay, gyda'r ddau gyfleuster ar agor o 10am tan 4pm, saith diwrnod yr wythnos.

Ac o'r penwythnos hwn ymlaen, bydd Hi Tide Inn ar Ffordd Mackworth yn agor ei gyfleusterau toiled i breswylwyr ac ymwelwyr.

Yn dilyn llacio rhai o gyfyngiadau pandemig y coronafeirws a chyfnod o dywydd braf, mae nifer yr ymwelwyr â Phorthcawl wedi cynyddu a gyda phrinder toiledau ar gael i'r cyhoedd, mae angen darparu cyfleusterau dros dro. Mae'r cyfleusterau hyn yn debygol o fod ar agor am rai wythnosau wrth i ragor o gyfyngiadau lacio, gan alluogi'r cynllun cysur i fynd rhagddo unwaith eto.

Rydym yn ddiolchgar i grwpiau a busnesau lleol ym Mhorthcawl, megis Hi Tide Inn, am eu cymorth a chefnogaeth wrth gydweithio â'r cyngor tref i agor eu cyfleusterau.

Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â'r cyngor tref gyda'r bwriad o ddarparu rhagor o doiledau dros dro, yn cynnwys cyfleusterau anabl, yn fuan iawn a fydd ar gael tan ddiwedd mis Mehefin.

Dywedodd Janine Nightingale, cyfarwyddwr cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dywedodd clerc Cyngor Tref Porthcawl, Kerry Grabham: "Gyda'r cynnydd a groesawir mewn ymwelwyr â'r ardal yn yr wythnosau diwethaf a chynlluniau i agor toiledau newydd Parc Griffin yn fuan, cydnabûm yr angen i ddarparu rhagor o gyfleusterau.

"Hoffem ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi cydweithio â ni i ddarparu'r mesur dros dro hwn ac edrychwn ymlaen at groesawu ymwelwyr newydd a'r rheiny sy'n dychwelyd, fel ei gilydd."

Mae toiledau cyhoeddus ar gael o hyd ar Stryd John ac yng Nghanolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay, gyda'r ddau gyfleuster yn darparu mynediad i'r anabl.

 

Chwilio A i Y