Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Darpariaeth i bobl sy’n cysgu allan ym Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithio ar y cyd â sefydliadau lleol fel y Wallich, Pobl ac eraill i gefnogi pobl sy’n cysgu allan y gaeaf hwn.

Bydd y cyngor a’r sefydliadau hyn yn gweithio ar y cyd i sicrhau bod gan bobl ddigartref le cynnes a diogel i gysgu a’u bod yn gallu cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau i’w helpu a’u cefnogi.

Mae brecwast yn cael ei weini yn y Wallich ar Stryd y Parc 365 diwrnod y flwyddyn i gynnig bwyd a diod poeth rhwng 6:30am a 9am yn ogystal â sachau cysgu, dillad cynnes, pethau ymolchi ac eitemau pwysig eraill.

Rhwng 9.30am a hanner dydd, o ddydd Llun i ddydd Gwener, bydd canolfan galw heibio yn darparu lle diogel i bobl yn ogystal â chyfleusterau ymolchi a mynediad at ffôn a chyfrifiadur.

Yna gyda’r nos, bydd y cynllun arwynebedd llawr yn darparu lle diogel, sych a chynnes iddynt gysgu. Mae hwn ar gael rhwng 8pm ac 8am, drwy gydol y flwyddyn ar yr Elms, Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, gydag oriau estynedig ar Wyliau Banc neu os yw’r tywydd yn ddifrifol.

Caiff yr arwynebedd llawr ei ddyrannu fesul diwrnod, ac mae’n rhaid i bobl gyflwyno’u hunain rhwng 3pm a 5pm drwy Hyb Cymorth Lleol Pobl sydd wedi’i leoli yn Uned 2, Stryd Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae pobl yn mynd yn ddigartref am bob math o resymau, ac mae nifer o sefydliadau lleol ar gael i roi help, cyngor a chymorth. Mae tîm Atebion Tai y cyngor yn sicrhau bod ceisiadau am dai yn gallu cael eu gwneud drwy gydol y flwyddyn ar unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos.

Mae gweithio mewn partneriaeth yn gwneud synnwyr perffaith gan ein bod yn rhannu’r un nod yn y pen draw, sef cael pobl sy’n cysgu allan oddi ar y stryd ac i mewn i lety amser llawn. Os oes unrhyw un yn poeni am berson sy’n cysgu allan, gallant roi gwybod i’r awdurdod lleol drwy ddefnyddio ap Street Link sydd ar gael yn www.streetlink.org.uk

Mae’n ffordd gyflym a hawdd o sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar yr help sydd ei angen arnynt.

Cynghorydd Dhanisha Patel, Aelod Cabinet dros Lesiant a Chefnogi Cenedlaethau’r Dyfodol

• Gallwch gysylltu â’r tîm Atebion Tai drwy ffonio 01656 643643 neu anfon e-bost i talktous@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y