Dangoswch i blant lleol eu bod yn bwysig drwy ymuno â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 18 Mai 2021
Yn ystod y Pythefnos Gofal Maeth hwn (10-23 Mai), mae'r cyngor yn galw ar fwy o bobl yn yr ardal i ystyried maethu.
Mae angen llawer o deuluoedd maeth newydd bob blwyddyn, ar draws y fwrdeistref sirol i ofalu am blant o bob oed ac yn arbennig grwpiau o frodyr a chwiorydd, plant hŷn a phlant ag anghenion ychwanegol.
Mae gofalwyr maeth yn darparu cymorth, cariad a sefydlogrwydd o ddydd i ddydd i blant a phobl ifanc nad ydynt yn gallu byw gyda'u teuluoedd biolegol.
Meddai Wayne a Michelle, gofalwyr maeth sydd wedi newid bywydau llawer o blant yn eu gofal:
"Rydyn ni'n ofalwyr am ei bod mor hyfryd gweld plentyn yn datblygu ac yn dod yn fwy hyderus yn eich gofal. Maen nhw'n cael effaith mor gadarnhaol ar y teulu cyfan - mae gennych obeithion go iawn am ddyfodol disglair iddyn nhw."
Hefyd, dywedodd Daniel a Rachel, sydd wedi bod yn maethu gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr ers 2016: "Rydyn ni’n ofalwyr oherwydd ein bod yn gallu cynnig amgylchedd cadarnhaol, diogel, cynnes a chariadus, i roi cyfle i berson ifanc ddatblygu a ffynnu.
"Gallwn hefyd gynnig cefnogaeth ac arweiniad iddynt i fagu eu hyder. Rydyn ni wedi cael llawer o brofiadau gwahanol wrth faethu, gan fod pob lleoliad yn unigryw – rydych chi’n dysgu mwy am y gwaith wrth i chi ddechrau ar y daith faethu gyda nhw.
“Ers ymuno â Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr rydyn ni wedi dod yn ofalwyr cyswllt, sy'n golygu ein bod yn gallu rhannu ein profiadau ag eraill ond, yn bwysicaf oll, darparu'r cymorth hwnnw y mae mawr ei angen i ofalwyr maeth eraill ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
"Mae bod yn rhan o'r tîm gofal maethu yn eich galluogi i ddatblygu perthynas gyda gofalwyr eraill. Rydyn ni’n mynychu boreau coffi a llawer o ddigwyddiadau eraill, lle cewch gyfle i wella eich sgiliau a'ch gwybodaeth drwy gyfleoedd hyfforddi gwych.
"Mae'n wych teimlo'n rhan o dîm mawr o bobl o'r un anian sydd eisiau cyflawni'r un nodau â chi – y canlyniad gorau i blentyn yn ein gofal.
"Mae'n rhaid i chi fod yn agored eich meddwl ac yn anfeirniadol a delio â phob lleoliad gydag urddas a pharch gan fod angen i chi hefyd feithrin cysylltiadau therapiwtig gydag aelodau o'r teulu biolegol.
"Os ydych chi'n ystyried dod yn ofalwr maethu, ein cyngor ni fyddai mynd amdano. Byddwch yn cael eich cefnogi ym mhob agwedd ar y broses ac mae hefyd yn rhoi boddhad mawr."
Mae'n wirioneddol ysbrydoledig clywed am lwyddiant y straeon gan rai o'n gofalwyr maeth rhagorol.
Fodd bynnag, mae gwir angen mwy o bobl arnom fel Wayne, Michelle, Rachel a Daniel i fentro ac ystyried maethu neu gefnogi pobl ifanc yn ein bwrdeistref sirol.
Mae gofalwyr maeth yn dod o bob cefndir, yn union fel y plant sydd angen eu gofal. Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn siarad â'n tîm maethu am gyngor cyfrinachol a chyfeillgar.
Dywedodd y Cynghorydd Nicole Burnett
Ddydd Iau 20 Mai, gofynnir i bobl ar draws y fwrdeistref sirol ddangos eu cefnogaeth i ofalwyr maeth awdurdodau lleol drwy osod lamp yn eu ffenestr flaen i 'daflu goleuni' ar y gwaith caled sy'n cael ei wneud a dathlu eu hymdrechion i drawsnewid bywydau plant a phobl ifanc. Bydd adeiladau ledled Cymru, gan gynnwys Pafiliwn y Grand, Porthcawl hefyd yn cael eu goleuo’n oren i ddathlu'r gwaith rhyfeddol maen nhw'n ei wneud.
Os ydych chi’n meddwl y gallech chi wneud gwahaniaeth drwy ddod yn ofalwr maeth gyda Gofal Maeth Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i: www.bridgend.gov.uk/fostering neu ffoniwch: 01443 425007 ac e-bostiwch: enquiries@fostercwmtaf.co.uk