Dangoswch eich bod yn barod i leihau llygredd plastig
Poster information
Posted on: Dydd Iau 13 Mehefin 2019
Mae busnesau a thrigolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hannog i ddangos eu bod nhw’n barod i leihau llygredd plastig drwy gefnogi Diwrnod Cenedlaethol Ail-lenwi ar ddydd Mercher 19 Mehefin.
Mae'r ymgyrch yn ceisio rhoi diwedd ar boteli plastig untro drwy annog pobl i gario potel y mae modd ei hailddefnyddio gyda nhw.
Gall busnesau gofrestru i ddweud eu bod yn fodlon i bobl ail-lenwi eu poteli yn eu heiddo drwy fynd i'r wefan ail-lenwi ar-lein; a gall pobl y mae angen diod arnynt lwytho'r ap Refill i lawr am ddim er mwyn gweld lle mae modd iddyn nhw lenwi eu potel.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn falch o gefnogi'r ymgyrch. Mae'n ddychrynllyd faint o boteli plastig sy’n cael eu taflu ac yn mynd i mewn i afonydd a moroedd, sy’n cael effaith ar fywyd gwyllt ledled y byd.
Yn nes at adref, pan wnaeth plant ysgol gynnal sesiynau codi sbwriel ar draethau lleol, plastig oedd sbwriel mwyaf cyffredin roedden nhw’n dod o hyd iddo yma hefyd. Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl leol yn poeni am lygredd plastig ledled y byd, ac eisiau gwneud rhywbeth am hynny. Bwriad Diwrnod Cenedlaethol Ail-lenwi yw cael pobl i beidio â defnyddio plastig untro a mynd â photel y mae modd ei hail-lenwi gyda nhw yn lle.
Byddwn yn annog caffis, tafarndai, bwytai a busnesau lleol eraill i gofrestru er mwyn sicrhau bod pobl sy’n mynd heibio yn gwybod bod croeso iddyn nhw lenwi eu poteli â dŵr o'r tap am ddim. Cofiwch hefyd, os na allwch chi beidio ag osgoi yfed o botel blastig untro, rhowch hi yn y bin neu fynd â hi adref i'w hailgylchu.
Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd y Cyngor