Danfon parseli bwyd i ddisgyblion sy'n gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim
Poster information
Posted on: Dydd Llun 08 Chwefror 2021
Bydd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau bwyd ysgol am ddim ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn derbyn cyflenwad parsel bwyd yr wythnos sy'n cychwyn ar 8 Chwefror.
Mae'r parseli'n cael eu danfon i gyfeiriadau cartref pob disgybl cymwys yr wythnos hon.
Ni fydd unrhyw un sydd wedi optio allan o'r ddarpariaeth yn flaenorol yn derbyn parsel bwyd oni bai eu bod yn e-bostio FSMCOVID19@bridgend.gov.uk i adfer y ddarpariaeth.
Bydd parseli bwyd yn cael eu danfon yn yr ardaloedd canlynol ar y dyddiau canlynol:
Dydd Llun 8 Chwefror
Caerau, Cwmfelin, Garth, Llangynwyd, Maesteg, Nantyffyllon ac unrhyw ardaloedd y tu allan i'r sir.
Dydd Mawrth 9 Chwefror
Nant-y-moel, Cwm Ogwr, Pantyrawel, Pricetown, Lewistown, Melin Ifan Ddu, Evanstown, Gilfach Goch, Blaengarw, Pontycymer, Llangeinwyr, Braich-y-Cymer, Pant-y-gog, Pontyrhyl, Y Pîl, Bryn Cynffig, Cefn Cribwr, Gogledd Corneli a De Corneli.
Dydd Mercher 10 Chwefror
Notais, Y Drenewydd, Porthcawl, Abercynffig, Betws, Goetre-hen, Brynmenyn, Tondu, Sarn, Bryncethin, Bryncoch, Ynysawdre, Pencoed, Penprysg, Llangrallo, Heol y Cyw a Rhiwceiliog.
Dydd Iau 11 Chwefror
Coety, Y Llidiart, Pen-y-fai, Cefn Glas, Broadlands, Bryntirion, Bracla, Trelales, Melin Wyllt a thref Pen-y-bont ar Ogwr.