Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytunwyd ar gyllideb y cyngor ar gyfer 2019–20

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cytuno ar gyfanswm cyllideb net o £270.8 miliwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Cyllideb refeniw gros y cyngor ar gyfer 2019–20 fydd oddeutu £420 miliwn, a bydd rhaglen buddsoddi cyfalaf ychwanegol gwerth £36.1 miliwn ar gyfer y flwyddyn.         

Er mwyn ariannu pwysau cyllidebol ychwanegol ac ymdrin â diffyg cyllid o £7.6 miliwn, cytunwyd ar gynnydd i'r dreth gyngor o 5.4 y cant, sy'n gyfwerth ag £1.45 ychwanegol yr wythnos i eiddo cyffredin ym Mand D.

Diolch i setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru, na leihaodd gyllid y cyngor gymaint â'r hyn a ddisgwylid, ni fydd bellach rhaid i ysgolion ddod o hyd i'r arbediad effeithlonrwydd blynyddol gwerth un y cant a gynigiwyd ar gyfer 2019–20.

Yn hytrach, bydd y cyngor yn gwario £111 miliwn, sef tua 42 y cant o'i gyllideb refeniw net, ar addysg, a bydd 59 o ysgolion lleol bellach yn rhannu £4.5 miliwn ychwanegol.

Mae cyllid cyfalaf gwerth £26.5 miliwn wedi cael ei neilltuo i ddarparu adeiladau ysgol newydd ac wedi'u hailwampio, sydd yn ogystal â'r £21.5 miliwn y mae'r awdurdod eisoes wedi'i fuddsoddi mewn moderneiddio ysgolion.

Bydd cyfanswm o £73 miliwn neu 27 y cant o'r gyllideb refeniw net yn cael ei wario ar ofal cymdeithasol, cymorth cynnar a digartrefedd.

Mae oddeutu £19.5 miliwn wedi cael ei neilltuo ar gyfer gwaith ar dir y cyhoedd, sy'n cynnwys gwasanaethau fel priffyrdd, parciau a mannau agored, glanhau strydoedd, gwastraff ac ailgylchu, trafnidiaeth gyhoeddus, hawliau tramwy, a diogelwch ar y ffyrdd.

Bydd rhaglen buddsoddi cyfalaf gwerth £36.1 miliwn yn buddsoddi £2.5 miliwn mewn grantiau cyfleusterau i’r anabl, £2.4 miliwn ar gyfer ail-wynebu ffyrdd ac adfer llwybrau cerdded, £2.3 miliwn i baratoi safle gorllewinol Golchfa Maesteg ar gyfer datblygiad posibl, £2 miliwn i gryfhau ac adfer pontydd yng Nghwm Ogwr, ac £1.3 miliwn ar gyfer adleoli canolfan ailgylchu gwastraff y cartref Llandudwg i safle gwell yn y Pîl.

Mae'r rhaglen buddsoddi cyfalaf hefyd yn cynnwys £1.1 miliwn ar gyfer technoleg goleuadau ynni effeithlon ar y strydoedd, £1 miliwn i helpu i drosglwyddo asedau cymunedol (sef pafiliynau chwaraeon, canolfannau cymunedol ac ystafelloedd newid), £530,000 i ehangu mynwentydd ym Mhorthcawl a Chorneli, a £500,000 ar gyfer canolfan llety preswyl i blant.

Bydd rhaglen ar gyfer gwaith hanfodol newid colofnau golau stryd i sicrhau eu bod yn ddiogel yn derbyn £400,000, a bydd £400,000 ar gyfer gwella diogelwch ar y ffyrdd, £357,000 ar gyfer prosiect canolfan gymunedol Neuadd y Dref Maesteg, £180,000 i ddarparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg, £100,000 ar gyfer Cynorthwyo Adferiad yn y Gymuned, ac £11,000 i wella caeau chwarae Aberfields yn Nant-y-moel.

I alluogi'r cyngor i ymdrin â'r diffyg cyllid o £7.6 miliwn, bydd y cyngor yn ymgymryd â gwaith i ailstrwythuro timau rheoli mewnol, ceisio lleihau cyfraniadau i Wasanaeth Addysg ar y Cyd Consortiwm Canolbarth y De, gwaredu Cronfa Gweithredu Cymunedol y cynghorwyr, ail-drafod contractau gyda phartneriaid megis Halo Leisure ac Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen, ac ailstrwythuro Troseddau Ieuenctid a'r Gwasanaeth Rheoliadol a Rennir.

Cynhelir adolygiadau ar gyfer gwasanaethau, gan gynnwys patrolau ar groesfannau ysgol, darpariaeth gofal cymhleth, atal digartrefedd, a pharciau a chaeau chwarae, a chynyddir ffioedd i brosesu ceisiadau cynllunio.

Ni fydd y cynnig i gau gorsaf fysiau Pen-y-bont ar Ogwr yn digwydd rhagor, a bydd y cyngor yn ceisio ei chadw ar agor trwy opsiynau (ymhlith rhagor) fel mynd i bartneriaeth â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr, codi mwy o dâl ar gwmnïau bysiau am ddefnyddio'r cyfleuster, ac archwilio i gyfleoedd i sefydlu cyfleoedd masnachol.

Ac yntau'n wynebu poblogaeth sy'n heneiddio ac sydd â mwy o ddibyniaeth ar wasanaethau'r cyngor, mae'r cyngor hefyd yn bwriadu gwneud arbedion sylweddol trwy gyflwyno dau gartref gofal preswyl newydd sy’n cynnig gofal ychwanegol.

Cafodd yr hyn a oedd yn edrych fel ein cyllideb anoddaf hyd yn hyn ei liniaru ychydig pan dderbyniom setliad cyllid nad oedd mor isel ag yr oeddem wedi ei ragweld, ac rydw i'n falch o ganlyniad ein bod wedi gallu newid ein cynigion ar gyfer y flwyddyn i ddod. Tra bo angen i ni ymdrin â £7.6 miliwn o ddiffyg cyllid o hyd, rhoddodd yr ymgynghoriad cyhoeddus gyfraniad enfawr tuag at y broses o bennu'r gyllideb.

Rydym wedi dweud erioed yr hoffem i bobl leol weithio gyda ni a helpu i lywio ein penderfyniadau terfynol, felly roedd yn galonogol iawn weld cynnydd o 44 y cant yn nifer yr arolygon a ddychwelwyd ar gyfer cyllideb 2019–20.

Pan ystyriwch fod pob cyngor yn wynebu’r her o geisio darparu gwasanaethau hanfodol gan ddefnyddio adnoddau cynyddol gyfyngedig, roedd lefel uchel o gyfranogiad yn hanfodol i helpu'r awdurdod i ddiogelu ysgolion, gwasanaethau hamdden, gofal am yr henoed, gwasanaethau i bobl anabl a meysydd eraill y nododd trigolion eu bod yn teimlo cryfaf amdanynt.

Arweinydd y Cyngor, Huw David

Ychwanegodd y Dirprwy Arweinydd Hywel Williams: "Fel yr holl gynghorau yng Nghymru, mae'n rhaid i ni godi’r dreth gyngor er nad ydym yn fodlon gwneud hyn, ond mae'n bwysig nodi na fydd y swm ychwanegol y bydd hyn yn ei gynhyrchu yn ddigon i dalu hyd yn oed am y cytundeb tâl cenedlaethol newydd ar gyfer athrawon.

“Rydym wedi gallu cynllunio ar gyfer rhaglen iach o fuddsoddiad cyfalaf ar gyfer y flwyddyn i ddod, ac wedi cymryd i ystyriaeth lawn strategaethau economaidd a gwariant cyhoeddus y DU, blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gofynion deddfwriaethol, adborth craffu a mesurau cyni cenedlaethol parhaus.

“Wrth i gyni cyllidol dynnu ymlaen, mae cyllid llywodraeth leol yn parhau i wynebu dyfodol anodd ac ansicr. Hoffwn roi sicrwydd i drigolion y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i wynebu'r her hon ac yn darganfod ffyrdd newydd ac arloesol o ddarparu gwasanaethau hanfodol.”

Chwilio A i Y