Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cytuno ar gynllun newydd i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol

Mae cynlluniau newydd wedi’u datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu sut mae’r awdurdod yn bwriadu atal bywyd gwyllt a phlanhigion ymledol rhag difrodi cynefinoedd, adeiladau, ffyrdd a seilwaith lleol eraill.

Mae Polisi Rhywogaethau Estron Ymledol newydd y cyngor yn sefydlu sut y bydd yr awdurdod yn ymdrin â rhywogaethau ymledol cyffredin fel clymog Japan a Jac y Neidiwr, gyda’r ddau ohonynt yn gallu lledaenu’n gyflym ac mewn niferoedd mawr.

Mae hefyd yn cyfrif am fathau penodol o fywyd gwyllt ymledol fel cimwch afon arwyddol, a all erydu a dymchwel glannau afonydd, a chregyn gleision rhesog, a all rwystro a difrodi pibellau.

Gyda swyddog Rhywogaethau Ymledol yn ei swydd i oruchwylio gweithrediad y polisi, mae’r cyngor yn bwriadu gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol cyfagos i reoli ac atal lledaeniad rhywogaethau ymledol ar draws de Cymru.

Dan y polisi, bydd rhestr o rywogaethau ymledol sy’n cyflwyno risg i’r amgylchedd neu i lefelau bioamrywiaeth lleol yn cael ei sefydlu a'i chynnal, a bydd pawb yn derbyn cynllun gweithredu unigol yn amlinellu sut mae’r cyngor yn bwriadu delio â’r sefyllfa.

Gyda dulliau rheoli dewisol yn parhau i gynnwys cymysgedd o driniaethau cemegol a mecanyddol, bydd gweithdrefn newydd yn cael ei chyflwyno i reoli adroddiadau newydd o rywogaethau ymledol, a bydd gweithredu gorfodol yn digwydd pan fyddant yn crwydro i dir a reolir gan y cyngor drwy dipio anghyfreithlon neu esgeulustod.

Mae'r polisi hwn wedi cael ei ddatblygu ar ôl i adroddiad gan yr Adran Amgylchedd, Bwyd a Materion Allanol bwysleisio bod rhywogaethau ymledol yn achosi gwerth biliynau o bunnoedd o ddifrod ledled y DU, gan ladd rhywogaethau brodorol a gwneud awdurdodau lleol yn agored i’r risg o weithredu cyfreithiol.

Er nad ydym yn credu bod pob math o rywogaeth ymledol sy’n cael ei gynnwys yn y polisi hwn yn bresennol o fewn y fwrdeistref sirol ar hyn o bryd, mae’n gwneud synnwyr i gynllunio ymlaen llaw nawr ar gyfer yr holl bosibiliadau.

Yr amcan cyffredinol yw cael gwared ar bob rhywogaeth ymledol nad yw'n frodorol yn y fwrdeistref sirol. Er y bydd cyflawni hynny yn gofyn am lawer o gydweithrediad a gweithio mewn partneriaeth, mae cael y Polisi Rhywogaethau Ymledol Estron yn ei le yn fan cychwyn gwych.

Yr Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Paul Davies

Chwilio A i Y