Cynnydd yn nifer y galarwyr a ganiateir mewn angladdau
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 28 Awst 2020
O ddydd Mawrth, 1 Medi, bydd nifer y galarwyr a ganiateir i fynychu gwasanaethau angladd yn Amlosgfa Llangrallo a mynwentydd a ofalir amdanynt gan y cyngor yn y fwrdeistref sirol yn cynyddu o 20 i 30.
Cyflwynodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyfyngiadau ar nifer y galarwyr yn unol â chanllawiau ledled y DU ar ddiwedd mis Mawrth i atal lledaeniad y coronafeirws ymhlith galarwyr, offeiriaid, cyfarwyddwyr angladdau a staff amlosgfeydd.
O'r dechrau un rydym wedi bod yn adolygu'r cyfyngiadau hyn yn rheolaidd, gan fod yn llwyr ymwybodol o ba mor anodd y maent wedi bod i rai teuluoedd a ffrindiau ar adeg mor drist.
Ar ddiwedd mis Mehefin, cynyddodd nifer y galarwyr o 10 i 20, ac mae'r cynnydd diweddaraf hwn o hyd at 30 yn dilyn canllawiau cenedlaethol sy'n cefnogi'r ymdrech barhaus i amddiffyn y cyhoedd ac arafu lledaeniad y feirws. Mae hefyd yn sicrhau y gall gwasanaethau profedigaeth barhau i ddarparu gwasanaeth angladd urddasol i deuluoedd yn ddiogel.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau, Richard Young
Bydd hyd at 30 o alarwyr yn gallu mynychu gwasanaeth ar lan y bedd hefyd cyn belled ag y glynir wrth fesurau ymbellhau cymdeithasol drwy gydol y seremoni awyr agored.
Dywedodd y Cynghorydd Young: "Hoffwn annog pob un o'r rheiny sy'n mynychu i beidio â thorri unrhyw rai o'r canllawiau ymbellhau cymdeithasol sydd yno i gadw pawb yn ddiogel. Peidiwch â mynychu gwasanaethau yn yr amlosgfeydd na'r mynwentydd os nad ydych yn un o'r 30 o alarwyr a gafodd wahoddiad. Mae'n hanfodol ein bod yn glynu wrth y rheolau i sicrhau nad oes rhaid i ni ddychwelyd at y cyfyngiadau llymach."