Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnydd o ddwy ran o dair o ran ailgylchu dros y Nadolig

Casglwyd 68 y cant yn fwy o ddeunyddiau ailgylchu o gartrefi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod pythefnos y Nadolig yn ddiweddar o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Casglwyd cymaint â 1138 o dunelli o gardfwrdd, plastigau, papur, gwastraff bwyd a deunyddiau ailgylchu oddi ar ymyl y ffordd eraill yn ystod y pythefnos rhwng 25 Rhagfyr 2017 a 7 Ionawr 2018 – o’i gymharu â 676 o dunelli y flwyddyn flaenorol.

Yn ystod yr un pythefnos cafwyd gostyngiad o 29 y cant yn y gwastraff a gafodd ei anfon i safleoedd tirlenwi, o 990 o dunelli i 704 o dunelli.

Nadolig yw adeg brysuraf y flwyddyn ar gyfer casgliadau ailgylchu a gwastraff, ac rydym ni’n hynod o falch o weld cynnydd mor sylweddol mewn ailgylchu yn yr ystadegau sydd wedi dod i law.

Rydym ni i gyd yn cronni llawer mwy o wastraff yn ystod cyfnod y Nadolig, ond mae hyn yn dangos unwaith eto modd ailgylchu cyfran sylweddol o’ch gwastraff, megis y rhan fwyaf o’r deunyddiau lapio anrhegion, ac wrth gwrs eich holl wastraff bwyd.

Hoffwn i ddiolch i holl drigolion y fwrdeistref sirol am eu cefnogaeth - rydym yn ei gwerthfawrogi.

Hywel Williams, Dirprwy Arweinydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ailgylchu ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i gael gwybodaeth am ailgylchu.

Chwilio A i Y