Cynnydd enfawr yn nifer y bobl sy'n defnyddio llwybrau troed lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 27 Ebrill 2021
Mae dulliau cyfrif nifer yr ymwelwyr ar lwybrau troed ledled bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dangos bod teirgwaith cymaint o bobl yn defnyddio'r rhwydwaith hawliau tramwy lleol o'i gymharu â'r cyfnod cyn y pandemig, gyda rhai o'r llwybrau mwyaf poblogaidd yn gweld cynnydd o hyd at saith gwaith yn fwy.
Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pobl wedi ailddarganfod beth sydd ar eu stepen drws, gan gerdded mwy ac ymarfer corff yn lleol.
Y tri phrif lwybr mwyaf poblogaidd yn y fwrdeistref sirol yw Taith Gylchol Nant Brynglas, Taith Gylchol Afon Ogwr a Merthyr Mawr, a Llwybr y Glowyr ym Mhencoed.
Yn y cyfamser, mae Taith Cwm Llynfi 2 sy'n mynd o Orsaf Garth i Orsaf Maesteg a Thaith Corneli 2 sy'n cynnwys Pwll Cynffig ymhlith y llwybrau i weld y cynnydd mwyaf o ran cerddwyr dros y flwyddyn ddiwethaf.
Gyda digonedd o leoedd hardd i'w harchwilio yn y fwrdeistref sirol, mae'n wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau yn yr awyr agored. Gyda niferoedd uwch o bobl yn defnyddio llwybrau troed, mae mwy o faterion cynnal a chadw yn cael eu hadrodd, ac rydym ar ganol mynd i'r afael â'r rhain cyn gynted â phosib.
Hoffem gymryd y cyfle i atgoffa pobl o'r Cod Cefn Gwlad sy'n caniatáu i bobl fwynhau'r buddion o ran iechyd a llesiant y mae byd natur yn eu cynnig, wrth ei barchu ar yr un pryd.
Gofynnwn i bobl barcio yn ofalus fel bod mynediad i fynedfeydd a thramwyfeydd yn aros yn glir. Dylid gadael giatiau ac eiddo fel y'u canfuwyd, a dylai pobl wneud lle i eraill wrth ddilyn llwybrau a pheidio â gadael unrhyw olion o'u hymweliad. Dylid mynd â phob sbwriel adref, cadw cŵn dan reolaeth a gwaredu baw ci yn gyfrifol. Yn olaf, ni ddylid cynnau unrhyw danau, a rhaid cymryd gofal os defnyddir barbeciw.
Dywedodd Janine Nightingale, cyfarwyddwr cymunedau Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Am ragor o fanylion ynglŷn ag ystod o deithiau yn y fwrdeistref sirol ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr neu'r wefan Croeso i Ben-y-bont ar Ogwr.