Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnig i sefydlu darpariaeth cyfrwng Cymraeg newydd i ddisgyblion ag awtistiaeth

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gofyn am farn pobl ynglŷn â'r cynnig i sefydlu cyfleusterau dysgu mwy arbenigol ar gyfer pobl ifanc sydd â diagnosis o anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD).

Wedi sefydlu darpariaeth yn Ysgol Gynradd Pencoed, Ysgol Gyfun Maesteg ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd yn barod, mae'r cyngor nawr yn bwriadu sefydlu canolfan adnoddau dysgu yn Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd - yr enw newydd ar gyfer Ysgol Gynradd Gymraeg Cwm Garw pan fydd yn symud i Betws.

Bydd y ganolfan arfaethedig yn galluogi plant iau sydd â diagnosis o ASD i barhau mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg.

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ar Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd gael ei gwblhau erbyn y flwyddyn newydd, a gallai'r ganolfan adnoddau dysgu agor ym mis Ebrill 2019, gan ddarparu ar gyfer uchafswm o wyth disgybl.

Heddiw, mae Aelodau Cabinet y cyngor wedi cytuno i ymgynghori'n ffurfiol â rhieni, staff a chorff llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd ac unrhyw bartïon eraill â diddordeb i gasglu eu safbwyntiau ar y cynnig.

Y llynedd, roedd cefnogaeth ysgubol ar gyfer sefydlu canolfan adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.

Wedi sefydlu'r ganolfan honno, y cam rhesymegol nesaf yw creu darpariaeth debyg yn un o’r ysgolion bwydo cyfrwng Cymraeg. Gan fod yr ysgol wedi'i lleoli yng nghanol y fwrdeistref sirol, credwn fod yr ysgol newydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Calon y Cymoedd, yn lle perffaith ar gyfer hyn.

Bydd y ganolfan adnoddau dysgu newydd yn rhan annatod o’r ysgol brif ffrwd, ac yn cynnig amgylchedd ble fydd y plant yn gallu datblygu a ffynnu o fewn eu grŵp cyfoedion a chael mynediad arferol at faes llafur y brif ffrwd pan fo'n briodol.

Cynghorydd Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio

Yn y cyfamser, mae Aelodau'r Cabinet hefyd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad dros y posibilrwydd o gau darpariaeth feithrin yr awdurdod lleol yn Ysgol Gynradd Betws ar 31 Mawrth 2019.

Y cynnig yw bod y pedwar disgybl sydd yn mynychu'r ddarpariaeth feithrin ar hyn o bryd naill ai’n ailymuno â’u hysgolion prif ffrwd fel eu bod yn gallu cael eu haddysgu mor agos â phosibl i’w cartref, neu symud i’r Bridge Alternative Provision yng Nghampws Bryncethin.

Chwilio A i Y