Cynnig gofal plant yn agor i ymgeiswyr newydd
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 20 Tachwedd 2020
Gallai rhieni sy'n gweithio sydd â phlentyn a gafodd ei eni rhwng 1 Medi 2017 a 31 Rhagfyr 2017 hawlio 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu.
Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i rieni sy'n gweithio ar draws bwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr fanteisio ar hyd at 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu ac addysg gynnar i blant tair i bedair oed, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Er mwyn bod yn gymwys am y cynllun, sy'n agor i ymgeiswyr newydd ddydd Llun, 23 Tachwedd, rhaid i rieni ennill ar gyfartaledd isafswm wythnosol sy'n gyfwerth â 16 awr ar yr isafswm cyflog cenedlaethol neu gyflog byw cenedlaethol, neu fwy na hynny, ond yn llai na £100,000 y flwyddyn.
Os ydych yn deulu â rhiant sengl, rhaid i chi fod mewn gwaith ac os ydych yn deulu â dau riant, rhaid i'r ddau ohonoch fod mewn gwaith. Os ydych yn hunangyflogedig neu ar gytundeb dim oriau, rhaid i chi allu profi hyn drwy ddarparu'r dogfennau perthnasol. Mae'r cynnig hwn ar gael yn ystod absenoldeb mamolaeth ac i'r rheiny sydd ar absenoldeb salwch hirdymor.
Dywedodd yr aelod cabinet dros lesiant a chenedlaethau'r dyfodol, y Cynghorydd Dhanisha Patel: "Gall y cynnig gynorthwyo rhieni i ddychwelyd i'r gwaith, cynyddu eu horiau neu weithio'n fwy hyblyg.
"Fel cyngor, rydym yn awyddus i helpu cymaint o rieni â phosib yn y fwrdeistref sirol, felly rydym yn falch o gefnogi gofal plant o ansawdd da wedi'i ariannu."
I wirio eich cymhwysedd ac i wneud cais, ewch i dudalen we gwybodaeth cynnig gofal plant y cyngor.