Cynnig cyfarpar diogelwch am ddim ar gyfer gyrwyr yn cael ei ymestyn
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 10 Mawrth 2021
Mae’r dyddiad cau i yrwyr tacsis a cherbydau llogi preifat ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wneud cais am becyn am ddim o offer cyfarpar diogelwch personol wedi ei ymestyn i 26 Mawrth 2021.
Mae hyn yn rhan o fenter barhaus gan Lywodraeth Cymru, sy'n cydnabod y cyfraniad pwysig mae gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei wneud i drafnidiaeth gyhoeddus o fewn cymunedau ledled Cymru. Mae'r cynllun yn darparu pecyn PPE am ddim i yrwyr trwyddedig, yn cynnwys gwerth chwe mis o gynnyrch glanhau a hylendid, gyda'r mwyafrif yn dod o fusnesau yng Nghymru.
Mae bob pecyn werth mwy na £73 yr un, yn cael eu postio am ddim ac wedi'u dylunio i sicrhau bod cerbydau mor ddiogel â phosib i yrwyr a theithwyr, ac yn cyflwyno mesurau sydd eisoes wedi cael eu cyflwyno ar fathau eraill o drafnidiaeth, i dacsis a cherbydau hurio preifat.
Bydd gyrwyr sy’n manteisio ar y cynnig am ddim hwn yn derbyn pecyn yn cynnwys:
- Pum litr o ddiheintydd aml-bwrpas
- Chwe photel 500ml o ddiheintydd dwylo
- 100 o lieiniau wedi'u plygu
- Dau orchudd wyneb meddygol
- Bocs gyda 50 gorchudd wyneb tafladwy
- Bron i 500 o weipiau glanhau.
- Potel chwistrellu
I ddysgu mwy ac ymgeisio am y cynllun, ewch i’r wefan We Are Lyreco cyn y dyddiad cau ar 26 Mawrth 2021.