Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynnal Gŵyl Lluoedd Pen-y-bont ar Ogwr am y tro cyntaf erioed

Mae Gŵyl Lluoedd Pen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei chynnal am y tro cyntaf erioed, yng Nghaeau Newbridge i ddod â phlant milwyr o bob rhan o'r fwrdeistref sirol ynghyd â chynnig cefnogaeth iddynt.

Trefnwyd yr ŵyl gan y cyngor mewn partneriaeth â Forces Fitness, YourNorth a SSCE Cymru. Cynhaliwyd y digwyddiad ysgol gynradd ddydd Mercher 24 Mai tra bod disgyblion ysgol uwchradd wedi mynychu ddydd Iau 25 Mai. Mynychodd cyfanswm o 94 o ddisgyblion o 17 ysgol dros y ddau ddiwrnod.

Roedd llawer o weithgareddau difyr ar gael a oedd yn galluogi disgyblion i weithio ar sgiliau allweddol fel gwaith tîm, cyfathrebu a datrys problemau.

Roedd y gweithgareddau yn cynnwys tasgau adeiladu tîm, cystadleuaeth tynnu rhaff, heriau dŵr, cwrs rhwystrau mawr wedi’u llenwi ag aer a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar.

Roedd yn wych gweithio gyda phartneriaid allweddol fel Forces Fitness, YourNorth a SSCE Cymru i drefnu digwyddiad mor werthfawr y bydd llawer o bobl ifanc yn y fwrdeistref sirol yn sicr yn elwa ohono.

Rhoddodd y digwyddiad hwn gyfle gwych i blant milwyr rannu eu profiadau gyda phlant eraill sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

Braf iawn hefyd oedd gweld cymaint o bobl ifanc yn gwneud ffrindiau newydd ac yn mwynhau'r gweithgareddau a ddyluniwyd i fod yn hwyliog ac yn addysgiadol.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg

Chwilio A i Y