Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn datblygu

Mae cynlluniau i sefydlu rhwydwaith gwres arloesol yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr wedi datblygu.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo'r gwaith i ffurfio is-gwmni er mwyn i'r prosiect ddatblygu, ac mae wedi cytuno i gynnwys cyllideb gwerth £3.4m yn y rhaglen gyfalaf ar gyfer y cam cyntaf o'r rhwydwaith.

Bwriad cam cyntaf Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr yw defnyddio gwres gormodol o gyfleuster storio peiriannau a thermol cyfun yng Nghanolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr i wresogi'r ganolfan, yn ogystal â’r Neuadd Fowlio a swyddfeydd y Ganolfan Ddinesig. Bydd hefyd yn darparu trydan i'r adeiladau hynny.

Mae’r cynllun yn rhan allweddol o ymrwymiad y cyngor i leihau allyriadau carbon.

Er mwyn cael cyllid gan Lywodraeth Prydain ar gyfer y cynllun, mae gofyn i'r cyngor greu is-gwmni sydd yn eiddo cyflawn i'r awdurdod lleol, er mwyn darparu'r prosiect. Bydd unrhyw elw a wneir yn cael ei ail-fuddsoddi yn natblygiad y rhwydwaith gwres.

Bydd y cyngor yn darparu benthyciad gwerth £1.8m i'r cwmni, a elwir yn Bridgend Heat & Power Ltd. Mae hyn yn rhan o'r gyllideb gyfalaf gwerth £3.4m, a bydd y cyllid sy'n weddill yn cael ei ddarparu gan grant gwerth £1m gan Lywodraeth Prydain, yn ogystal â chostau cysylltu a chyfalaf cyfranddaliadau.

Mae Rhwydwaith Gwres Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan fawr o strategaeth ddatgarboneiddio 2030 y cyngor a bydd yn caniatáu i ni arwain y ffordd o ran lleihau'r defnydd o ynni.

Mae darpariaeth y rhwydwaith yn dibynnu ar fforddiadwyedd cost cyfalaf y prosiect, a phennir hyn gan ymarfer caffael.

Wrth i ni ddatblygu'r cynlluniau, bydd Pen-y-bont ar Ogwr yn flaenllaw o ran datblygu rhwydwaith gwres gan ddefnyddio'r dechnoleg hon, sydd wedi ei phrofi, yng Nghymru.

Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet dros Gymunedau

Chwilio A i Y