Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau ei oriau agor ar gyfer cyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.

Ar wyliau’r banc, cynghorir trigolion i ymweld â gwefan y cyngor i gael unrhyw wybodaeth y maent yn chwilio amdani.

Bydd gwasanaeth Fy Nghyfrif hefyd ar gael i drigolion roi gwybod i'r cyngor am unrhyw broblemau fel y gellir eu datrys cyn gynted ag y bydd gwasanaeth arferol yn ailddechrau. Gall unigolion ddefnyddio'r gwasanaeth i reoli eu cyfrif treth gyngor neu fudd-daliadau tai.

Bydd oriau agor arferol yn ailddechrau ar ddydd Mawrth 3ydd o Ionawr, 2023:

  • Dydd Gwener 23                              8.30am-4.30pm
  • Gŵyl San Steffan                               Ar gau
  • Dydd Mawrth 27                                Ar gau
  • Dydd Mercher 28                              8.30am-5pm
  • Dydd Iau 29                                      8.30am-5pm
  • Dydd Gwener 30                              8.30am-4.30pm
  • Dydd Llun 2                                       Ar gau
  • Dydd Mawrth 3                                8.30am-5pm

Yn ychwanegol, bydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu yn cael eu cynnal fel arfer hyd at, ac yn cynnwys, dydd Gwener 23 Rhagfyr.

Ni fydd unrhyw gasgliadau ar ddydd Sadwrn 24 Rhagfyr (Noswyl Nadolig), ar ddydd Sul 25 Rhagfyr (Dydd Nadolig), nac ar ddydd Llun 26 Rhagfyr (Gŵyl San Steffan).

Bydd casgliadau sydd i fod i’w cynnal yn ystod wythnos 26 Rhagfyr yn cael eu casglu un diwrnod yn hwyrach na’r arfer, cyn dychwelyd i’r arfer o ddydd Llun 2 Ionawr.

Gall trigolion roi un bag gwastraff ychwanegol allan ar gyfer eu casgliad sbwriel cyntaf ar ôl Dydd Nadolig.

Bydd gan Kier gerbyd ychwanegol allan hefyd i gasglu cardfwrdd ychwanegol - os na chaiff eich un chi ei gasglu gyda deunydd ailgylchu arall, bydd y criw yn dod yn ôl i'w gasglu yn nes ymlaen.

Cadwch lygad ar wefan y cyngor a’n cyfryngau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau nesaf i gael gwybodaeth am sut y gallwch chi gael gwared ar wastraff Nadoligaidd fel eich twrci, coeden Nadolig, papur lapio a mwy.

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddymuno Nadolig Llawen, a Blwyddyn Newydd Dda i’r holl breswylwyr.

Chwilio A i Y