Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau i ehangu Ysgol Gynradd Coety yn symud gam yn nes

Mae’r ehangu arfaethedig i Ysgol Gynradd Coety wedi symud i’r cam nesaf wedi i’r Cabinet gytuno i symud ymlaen fel y cynlluniwyd ar ôl derbyn canlyniadau ymgynghoriad cyhoeddus diweddar. 

Byddai hyn yn cynyddu capasiti Ysgol Gynradd Coety o 420 i 525 o leoedd ar gyfer disgyblion rhwng pedair ac un ar ddeg mlwydd oed.

Er mwyn mynd i'r afael â'r galw am leoedd, lansiwyd gwerthusiad opsiynau, a nodwyd bod angen cynyddu darpariaeth yr ysgol. Arweiniodd hyn at nodi opsiwn dewisol ar ffurf estyniad dau lawr, a fyddai'n cynnwys pedair ystafell ddosbarth.

Mae’r gwaith arfaethedig yn cynnwys:

  • Darpariaeth ychwanegol i ddisgyblion drwy adeiladu estyniad pedair ystafell ddosbarth
  • Mwy o gyfleusterau’n cynnwys toiledau, ystafelloedd cotiau a mannau i storio
  • Lle chwarae estynedig i ddarparu lle ychwanegol i’r nifer cynyddol o ddisgyblion
  • Bydd y lle chwarae ychwanegol fydd yn cael ei greu yn gallu cynnwys cwrt pêl-rwyd/pêl-fasged newydd fydd yn agosach at faint safonol na’r cwrt presennol.

Bydd yna hefyd gyfle i gynyddu darpariaeth feithrin drwy ychwanegu 12 lle meithrin llawn amser ychwanegol. Golyga hyn y bydd 75 lle llawn amser i ddisgyblion 3-4 oed a 9 lle rhan amser ychwanegol yn dod â’r cyfanswm i 84.

Bydd hysbysiad cyhoeddus statudol yn cael ei gyhoeddi nawr, os na fydd gwrthwynebiad mae’r Cabinet yn bwriadu penderfynu a ydynt am weithredu’r newidiadau ai peidio ym mis Gorffennaf.

Ynghyd â’r ehangu arfaethedig, rydym hefyd yn cynnig ail-leoli ac ehangu Ysgol Gynradd Gymraeg Bro Ogwr yn sylweddol ar safle newydd sbon i sicrhau bod dysgwyr yn elwa o’r dewis rhwng addysg Gymraeg a Saesneg o safon uchel.

Y cynlluniau hyn yw’r camau nesaf sy’n ein cynorthwyo i sicrhau bod mwy o blant yn mynychu eu hysgol leol.

Mae’n hanfodol ein bod yn ymateb i’r ffaith bod yna fwyfwy o alw mewn plant sydd eisiau mynychu Ysgol Gynradd Coety yn dilyn y twf yn yr ardal.

Rwyf hefyd yn falch iawn o weld y nifer o leoedd meithrin wedi cynyddu. Bydd hyn yn cynorthwyo’r cysylltiadau trosglwyddo y bydd disgyblion, rhieni/gofalwyr a’r ysgol gyfan, heb os, yn elwa ohonynt.

Dywedodd y Cynghorydd Jon-Paul Blundell, yr Aelod Cabinet dros Addysg:

Chwilio A i Y