Cynlluniau codi arian pellach ar gyfer dwy ardd dementia
Poster information
Posted on: Dydd Iau 07 Hydref 2021
Mae Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr a Hwb Cymunedol Cwm Calon yn bwriadu gosod gerddi dementia newydd ar ôl i gynlluniau cael eu gohirio oherwydd y pandemig Covid-19.
Yng Nghanolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr, cafodd cystadleuaeth dylunio tirlun ei chynnal ymysg disgyblion a staff Coleg Pencoed, gydag Age Concern, pobl sy’n mynychu Canolfan Adnoddau Pen-y-bont ar Ogwr a rhanddeiliaid eraill yn dewis y dyluniad gorau.
Er bod achosion o goronafeirws wedi gohirio’r prosiect, parhawyd â’r ymdrechion codi arian, ac mae’r cyfanswm ar hyn o bryd wedi cyrraedd £13,194.
Nawr, mae rhagor o gynlluniau codi arian ar y gweill dros fisoedd yr hydref a’r gaeaf er mwyn cyrraedd y targed o £25K sydd ei angen, a’r gobaith yw y bydd gwaith yn dechrau gwanwyn nesaf.
Yn y cyfamser, cafodd Hwb Cymunedol Cwm Calon ym Maesteg, sy’n cefnogi pobl â dementia ac anawsterau dysgu, grant o £1,000 yn gynharach eleni ar gyfer gardd debyg, ar ôl gwneud cais i gynllun Grantiau Cymunedol Tesco, sy’n cael ei gynnal ar y cyd â’r elusen gymunedol, Groundwork.
Bydd yr ardd yn cael ei chynllunio gyda mewnbwn unigolion sy’n mynychu’r Hwb Cymunedol, a'r gobaith yw y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau'r haf nesaf.
Fel rhan o’r cynlluniau, bydd ardal batio yn cael ei hadnewyddu i greu ardal eistedd a barbeciw, gyda photiau plannu a dodrefn gardd newydd yn cynnig cyfleoedd i ymlacio ac ymgysylltu.
Mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn heriol i bawb, yn enwedig trigolion mwy bregus, felly mae’n wych gweld prosiectau fel hyn a fyddai’n cefnogi ein cymunedau wrth i ni adfer ar ôl y pandemig.
Mae gerddi fel y rhain yn cynnig ystod eang o fuddion i unigolion sy’n dioddef gyda dementia, yn helpu pobl i gael mynediad rheolaidd at awyr iach ac ymarfer corff mewn man tawel oddi wrth eraill.
Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar
Bydd rhagor o fanylion ynghylch ymdrechion codi arian ar gyfer tymor y gaeaf yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.