Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynlluniau ar gyfer gardd gymunedol newydd gwerth £150,000 ar hen safle Canolfan Berwyn yn Nantymoel, wedi'u datgelu

Mae cynlluniau wedi'u datgelu ar gyfer gardd gymunedol newydd gwerth £150,000 ar hen safle Canolfan Berwyn yn Nantymoel.

Cafodd hen neuadd y gweithwyr ei dymchwel yn 2013 gan na allai’r cyngor fforddio'r bil atgyweirio gwerth miliynau o bunnoedd er mwyn ei gwneud yn ddiogel.

Nawr, mae cynlluniau ar waith i drawsnewid y safle yn ardd gymunedol sy'n cynnwys llwyfan awyr agored ac ardal ar gyfer ystafell ddosbarth, gweirglodd â blodau gwyllt, a gardd synhwyraidd.

Fel rhan o'r ardd, bydd ardal arbennig i ddathlu cyflawniadau ein harwyr lleol.

Yn ogystal, mae treftadaeth fwyngloddio'r ardal ar fin cael ei chydnabod gyda gwaith celf yn portreadu mwyngloddiwr yn edrych allan at Bwll Glo Wyndham, a'r llwyfan awyr agored a fydd â chefndir wedi'i ysbrydoli gan hanes y cwm.

At hynny, bwriedir i naid enwog 'Lynn the Leap' gael ei choffáu gyda gwaith celf o'r pencampwr Olympaidd wedi'i osod mewn palmant y tu allan i fynedfa'r ardd gymunedol.

Rydym yn gobeithio y bydd yr ardd gymunedol newydd yn dod yn ardal gymdeithasol lle gall siopwyr a cherddwyr ymlacio a sgwrsio. Mae'r cynlluniau hyn yn eu camau cynnar o hyd ac yn agored i newid wrth iddynt fynd drwy'r broses ddylunio - rydym yn edrych ymlaen at weld y prosiect yn datblygu gyda help y gymuned gyfan.

Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Hywel Williams

Hyd yn hyn, cynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgynghori cyhoeddus ar y cynlluniau, gyda grŵp llywio yn cynnwys ystod o grwpiau yn goruchwylio'r prosiect, o'r ysgol gynradd a'r preswylwyr lleol i Grŵp Hanes Cwm Ogwr.

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru, Datblygu Gwledig Reach y cyngor, ac ymddiriedolwyr y ganolfan sy'n gyfrifol am y tir, yn cydweithio i gyflwyno ceisiadau grant i helpu i ariannu'r prosiect.

Cafodd y cynlluniau eu datgelu yn ystod dathliad arbennig yn Neuadd Goffa Clwb Bechgyn a Merched Nantymoel ddydd Gwener, 28 Chwefror.

Gwnaeth y digwyddiad nodi diwedd prosiect dwy flynedd, sydd wedi arwain at ddatblygu hwb a llwybr treftadaeth Cwm Ogwr.

Fel rhan o'r prosiect, mae 12 o baneli gwybodaeth ddehongliadol sy'n dogfennu gorffennol yr ardal ac yn amlygu mannau o ddiddordeb a llwybrau cerdded a beicio ychwanegol wedi'u gosod o Barc Gwledig Bryngarw, i fyny’r cwm ar hyd y llwybr beicio a cherdded, i Nantymoel.

Ac mae cyfres o weithdai wedi cael eu cynnal, sy'n cynnwys sesiynau ar gynnal beiciau a hyfforddiant ar sgiliau gan Sustrans Cymru, siarad cyhoeddus a chyfryngau cymdeithasol yn ogystal â chwrs ar ddigido deunyddiau ar gyfer amgueddfeydd a llyfrgelloedd, a gweithdai i ddylunio murlun newydd ar gyfer y ganolfan.

Trefnwyd taith hefyd i Archifau Morgannwg gyda hyfforddiant wedi'i drefnu ar drin, cynnal a phacio deunydd archif.

Yn ystod y digwyddiad dathlu, gwnaeth plant o Ysgol Gynradd Nantymoel berfformio ychydig o ganeuon, ac roedd y stondinau yn y digwyddiad yn cynnwys Age Connects Morgannwg, Dŵr Cymru a Sustrans, a ddaeth â'i feic smwddi.

Mae'r prosiect wedi derbyn arian drwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

Roedd Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn bartner cyllid yn y prosiect.

Dywedodd y Cynghorydd Williams fod y Neuadd Goffa yn adeilad o bwys.

Meddai: "Mae gan bawb sy'n byw yn y cwm gysylltiad â'r neuadd; yn syml, mae'n meddwl cymaint i bobl. Fel bachgen, byddwn yn dod yma.

"Yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae wedi cael ei thrawsnewid, a gyda help gan wirfoddolwyr, mae cyfle bellach i gynnal hanes rhyfeddol yr ardal hon am yr 80 mlynedd nesaf."

Ail-agorwyd yr adeilad y llynedd ar ôl ymgymryd â thrawsnewidiad gwerth £350,000 i greu hwb cymunedol a chanolfan dreftadaeth newydd ar gyfer y cwm.

Mae bellach yn cynnwys neuadd chwaraeon maint llawn, caffi cymunedol, ystafelloedd hamdden, a man cyfarfod.

Chwilio A i Y