Cynlluniau ar gyfer amddiffynfeydd rhag llifogydd gwerth £6 miliwn ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Llun 24 Chwefror 2020
Bydd cynlluniau ar gyfer amddiffynfa rhag llifogydd gwerth £6 miliwn ym Mhorthcawl yn golygu y bydd gwaith sylweddol yn cael ei wneud ar ardaloedd Morglawdd y Gorllewin, Promenâd y Dwyrain a Sandy Bay y dref.
Bydd y prosiect, a arweinir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, yn helpu i ddiogelu mwy na 500 o gartrefi a thros 170 o fusnesau yn y dref.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar, mae adeileddau morglawdd Promenâd y Dwyrain a Morglawdd y Gorllewin yn dirywio ac mae'n fwy tebygol y bydd dŵr yn gallu mynd drostynt.
Mae'r amddiffynfeydd rhag llifogydd yn Sandy Bay, Morglawdd y Gorllewin a Phwynt Rhych i gyd wedi'u clustnodi i gael eu diweddaru fel rhan o'r gwaith.
Mae'r cynllun yn ceisio cynnal amddiffynfeydd môr a diogelu eiddo ym Mhorthcawl i ddiwallu anghenion tymor hir preswylwyr, gan roi ystyriaeth i godiad yn lefel y môr hyd at 2118, yn unol â'r canllawiau presennol.
Mae'r adeileddau'n diogelu gwerth miliynau o bunnoedd o asedau a seilwaith ar hyd Morglawdd y Gorllewin a Phromenâd y Dwyrain, gan gynnwys llwybrau cerdded, y busnesau masnachol a'r eiddo yn adeilad Jennings, ac adeiladau y byddent yn cael eu heffeithio gan lifogydd fel arall ar lan môr Porthcawl.
Mae'r amddiffynfeydd hefyd yn diogelu eiddo masnachol arall a chyfleustodau fel nwy, dŵr a charthffosydd ar hyd glan y môr sy’n rhoi manteision pwysig i gyflogaeth ac economi Porthcawl. Bydd parhau i amddiffyn yr ardal hon yn rhoi sicrwydd i randdeiliaid i barhau i fyw, gweithio a buddsoddi yn yr ardal ac ymweld â hi. Petai'r adeileddau'n methu, byddai disgwyl enciliad i safle y draethlin ar hyd Sandy Bay. Byddai hefyd yn golygu y byddai hyd at 531 o adeiladau preswyl ac 175 o adeiladau dibreswyl mewn perygl o ddioddef llifogydd.
Charles Smith, yr Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio
Adeiladwyd morglawdd Promenâd y Dwyrain yn y 1860au fel rhan o'r harbwr mewnol.
Adeiladwyd Morglawdd y Gorllewin yn y 1820au a chafodd ei ymestyn yn y 1860au – byddwch yn ei weld yn aml mewn ffotograffau lle mae tonnau mawr yn taro drosto.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyflwyno achos busnes llawn i Lywodraeth Cymru am y gwaith ac mae'n aros i'r cynllun gael ei gymeradwyo ar hyn o bryd.
Os bydd yn cael ei gymeradwyo, bydd Llywodraeth Cymru'n darparu 75% o'r arian gyda'r gweddill yn dod o Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ym Mhorthcawl ar y cynlluniau ym mis Chwefror 2019.
Yng nghyfarfod cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ddydd Mawrth, 25 Chwefror, bydd gofyn i gynghorwyr awdurdodi'r broses dendro ar gyfer y gwaith amddiffyn arfordirol.
Mae'n dilyn prosiect gwerth £3 miliwn i adleoli amddiffynfeydd môr yn Nhraeth y Dref, sydd wedi helpu i ddiogelu 260 o gartrefi, busnesau ac adeiladau hanesyddol fel Pafiliwn y Grand.