Cynlluniau ar gyfer adeilad Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd yn symud gam ymlaen
Poster information
Posted on: Dydd Llun 07 Tachwedd 2022
Mae cynlluniau ar gyfer adeilad Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd wedi symud gam ymlaen, ar ôl i Gabinet y cyngor glywed canlyniad hysbysiad statudol, na ddenodd unrhyw wrthwynebiadau.
Bwriedir i'r ysgol newydd fod yn barod erbyn dechrau tymor yr hydref 2025, a bydd wedi'i lleoli ar dir ger Ffordd Cadfan, sydd dafliad carreg oddi wrth y safle presennol ym Mracla.
Bydd y safle newydd yn cynnig mwy o gyfle i ddysgwyr gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, gan gynyddu’r capasiti o 378 i 525 ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 mlwydd oed.
Mae'r cyngor bellach wedi cyhoeddi llythyr penderfyniad i gadarnhau cymeradwyo'r cynlluniau.
Cymeradwyodd y Cabinet i gyd-leoli cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gyfer ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn Ysgol Gymraeg Bro Ogwr hefyd.
Ystyriwyd rhestr hir o safleoedd ar gyfer datblygu'r cyfleuster gofal plant yn ardal Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn flaenorol, yn seiliedig ar eu haddasrwydd a lleoliad.
Bydd cyd-leoli'r cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg gyda safle newydd Ysgol Gymraeg Bro Ogwr yn annog cysylltiadau trafnidiaeth ardderchog ac yn hyrwyddo'r iaith Gymraeg, gan y bydd yr holl ddarpariaeth yn yr un lleoliad.
Bydd y cyfleuster gofal plant yn rhan annatod o'r ysgol a bydd ganddo fynedfa ar wahân i'r rhan honno o'r adeilad.
Dyma newyddion cyffrous iawn i addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan y bydd yr Ysgol Gymraeg Bro Ogwr newydd yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i fwy o ddisgyblion yr ardal nag erioed o'r blaen.
Bydd y cynlluniau'n chwarae rhan allweddol wrth gynyddu'r nifer sy'n siarad Cymraeg yn y fwrdeistref sirol, ac mae hefyd yn galonogol gweld y bydd cyfleuster gofal plant cyfrwng Cymraeg ar gael ar y safle. Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod dysgwyr o bob oedran yn pontio'n ddidrafferth.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Jon-Paul Blundell: