Cynllun ymarfer corff cyfnod clo yn cyrraedd 100 o gyfranogwyr
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 31 Mawrth 2021
Mae rhaglen ymarfer corff ar-lein am ddim, sy'n cael ei chynnig yn ystod y cyfnod clo gan Halo Leisure ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo'n isel, unig, neu'n byw gyda dementia ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wedi croesawu ei 100fed cyfranogwr.
Roedd Carol Hopkin, sy'n saith deg naw mlwydd oed, yn arfer mynychu Canolfan Bywyd Cwm Ogwr yn wythnosol ar gyfer sesiynau ymarfer corff, ond mae'r cyfnod clo wedi gwneud iddi deimlo'n unig ac nid yw hi’n gwneud fawr ddim gartref.
Penderfynodd ymuno â rhaglen ddigidol Feel Good for Life Halo yn ystod y mis diwethaf, er mwyn ei helpu hi i fod yn actif a chysylltu â hen ffrindiau a rhai newydd ar-lein. Carol oedd y 100fed cyfranogwr i ymuno â'r rhaglen.
Mae Halo yn cynnig benthyca iPad am ddim i bawb sy'n ymuno â'r rhaglen, sy'n eu helpu nhw i ymuno â dosbarthiadau ymarfer corff, yn ogystal â chwisiau, sesiynau canu a mwy.
Dywedodd Ryan Statton, Rheolwr Cymunedau Actif Halo: "Rydym yn deall cymaint mae pobl leol wedi methu'r elfen gymdeithasol yn ogystal â'r gweithgareddau a'r ymarfer corff.
"Ac rydym yn deall fod cysylltu ag eraill yn hanfodol ar gyfer iechyd, lleihau gorbryder, gwella imiwnedd ac annog pobl i symud.
"Roedd yn gwneud synnwyr perffaith i ddarparu Feel Good for Life ar-lein, a dod o hyd i ffyrdd i gynnig y rhaglen i bobl sydd ar eu pen eu hunain.
"Danfonodd ein tîm ‘Feel Good for Life’ iPad at Carol, a chafodd hyfforddiant ar-lein gyda Zoom a TG er mwyn iddi allu defnyddio'r teclyn i gysylltu â theulu, chwarae gemau ar-lein a chymryd rhan mewn sesiynau ymarfer corff rhithiol gyda thîm Halo. Pwrpas hyn yw helpu Carol a phobl eraill sydd yn yr un sefyllfa i fwynhau cymysgu a bod yn actif gartref."
Lansiwyd rhaglen lwyddiannus Feel Good for Life dair blynedd yn ôl gan Halo, sef menter gymdeithasol ac elusen gofrestredig, a chafwyd arian gan y Loteri Genedlaethol a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ers ei lansio, mae'r rhaglen wedi croesawu nifer o bobl fregus i ganolfannau hamdden y fwrdeistref sirol ar gyfer gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol.
Cafwyd cefnogaeth ychwanegol gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a'r awdurdod lleol i helpu i symud y rhaglen ar-lein yn ystod pandemig y coronafeirws.
Dywedodd Carol fod y dosbarth a'r iPad wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Dywedodd: "Mae'n sicr fod y dosbarthiadau ymarfer corff ar-lein yn fy annog i fod yn actif, ac rwyf wrth fy modd yn gweld fy ffrindiau a theulu dros alwadau Zoom."
Mae dosbarthiadau ar gael am ddim ar ap Halo tra bydd canolfannau ar gau oherwydd cyfyngiadau Covid, neu ar wefan Halo. Byddwch angen agor cyfrif Halo ar-lein i gael golwg ar y dosbarthiadau.
I gael golwg ar y dosbarthiadau sydd ar gael ar-lein, ewch i wefan canolfan Hamdden Halo neu ffoniwch 01656 678851.
Ar ôl i chi archebu eich lle, byddwch yn derbyn e-bost gyda gwahoddiad a chyfarwyddiadau ar sut i'w fynychu. Ac os nad ydych yn hyderus iawn gyda thechnoleg, bydd y tîm yn benthyca iPad i chi, er mwyn eich dysgu chi sut i'w ddefnyddio a byddant ar gael i'ch helpu chi drwy'r cyfan. Anogir aelodau teulu neu ofalwyr i gysylltu â Halo os ydynt yn meddwl y byddai'n helpu'r bobl hynny maen nhw'n eu gofalu amdanynt.