Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun wedi'i gyhoeddi i fynd â Chymru i Lefel Rhybudd 3 yn llawn

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyfres o fesurau a fydd yn mynd â Chymru i Lefel Rhybudd 3 yn llawn erbyn 17 Mai, yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, fod y flaenoriaeth yn cynnwys sicrhau bod pob plentyn a myfyriwr yn dychwelyd i addysg wyneb yn wyneb ar ddydd Llun 12 Ebrill.

Bydd yr holl siopau manwerthu nad ydynt yn hanfodol a gwasanaethau cyswllt agos sy'n weddill yn cael ailagor o ddydd Llun 12 Ebrill, tra bydd y rheolau hefyd yn cael eu newid i ganiatáu teithio i mewn ac allan o Gymru o weddill y Deyrnas Unedig a’r Ardal Deithio Gyffredin (Iwerddon, Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw).

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn nodi newidiadau pellach y mae'n bwriadu eu cadarnhau yn yr adolygiad ar 22 Ebrill, yn amodol ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus a chadarnhad terfynol gan Weinidogion, a fyddai'n gweld atyniadau awyr agored a lletygarwch awyr agored yn ailagor, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai ar ddydd Llun 26 Ebrill.

Erbyn dechrau mis Mai, mae'r cynlluniau'n cynnwys caniatáu cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu i hyd at 30 o bobl, ac i gampfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor ar gyfer hyfforddiant unigol neu un-i-un, ond nid dosbarthiadau ymarfer corff.

Mae'r newidiadau'n parhau gyda dull cam wrth gam cynlluniedig Llywodraeth Cymru o lacio'r cyfyngiadau coronafeirws, gan ystyried yr amrywiolyn Caint hynod heintus, sef ffurf amlycaf y feirws yng Nghymru erbyn hyn.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: "Diolch i ymdrech tîm go iawn ledled Cymru, mae achosion coronafeirws yn parhau'n sefydlog, ac mae'r rhaglen frechu yn parhau i symud yn gyflym. O ganlyniad, mae gan Lywodraeth Cymru y gallu i barhau â'i dull gofalus, cam wrth gam o lacio'r cyfyngiadau.

"Mae'r adolygiad rydym wedi'i gwblhau yr wythnos hon yn golygu y gallwn barhau â'n rhaglen o ailagor yr economi ymhellach a llacio'r cyfyngiadau sydd ar waith."

Os bydd amodau iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol, o ddydd Llun 12 Ebrill, gellir bwrw ymlaen â'r mesurau llacio canlynol:

  • Bydd pob plentyn yn dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb, pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd campysau prifysgol yn gallu agor ar gyfer dysgu cyfunol wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
  • Gall yr holl siopau sy'n weddill ailagor, gan gwblhau'r broses o ailagor siopau nad ydynt yn hanfodol fesul cam
  • Gall yr holl wasanaethau cyswllt agos sy'n weddill agor, gan gynnwys gwasanaethau symudol
  • Bydd cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i'r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae'r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu'r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon
  • Gall mynd i weld lleoliadau priodas ailddechrau drwy apwyntiad
  • Gall canfasio yn yr awyr agored ar gyfer etholiadau ddechrau

Mae nifer fach o ddigwyddiadau peilot awyr agored o rhwng 200 a 1,000 o bobl hefyd yn cael eu cynllunio, sy'n adeiladu ar y digwyddiadau prawf a gynhaliwyd fis Medi diwethaf. Byddant yn cynnwys digwyddiadau diwylliannol a chwaraeon ledled Cymru, gan gynnwys digwyddiad stadia posibl. 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda'r Cyngor Mwslimiaid i ystyried sut y gallant hefyd gynnwys digwyddiadau i helpu pobl i ddathlu Eid ar ddiwedd Ramadan. Byddai pob digwyddiad yn amodol ar gytundeb yr awdurdod lleol ac iechyd cyhoeddus.

Bwriedir llacio ymhellach ar gyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, ar yr amod bod y sefyllfa iechyd cyhoeddus yn parhau'n ffafriol.

Ar ddydd Llun 26 Ebrill  
- Bydd atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor
- Gall lletygarwch awyr agored ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch dan do yn parhau i fod dan gyfyngiadau.

Ar ddydd Llun 3 Mai
- Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi'u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl eto
- Gall derbyniadau priodas ddigwydd yn yr awyr agored, ond byddant hefyd yn cael eu cyfyngu i 30 o bobl.

Ar ddydd Llun 10 Mai
- Gall campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff
- Bydd aelwydydd estynedig unwaith eto yn caniatáu i ddwy aelwyd gyfarfod a chael cyswllt dan do

O ddydd Llun 17 Mai
Y canlynol yn ailagor/ailddechrau
- Gweithgareddau dan do i blant
- Canolfannau cymunedol
- Gweithgareddau dan do wedi'u trefnu ar gyfer oedolion, wedi'u cyfyngu i uchafswm o 15 o bobl. Mae hyn yn cynnwys dosbarthiadau ymarfer corff.

Ar ôl 17 Mai, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried galluogi lletygarwch dan do a'r llety ymwelwyr sy'n weddill i ailagor cyn Gŵyl Banc y Gwanwyn ddiwedd mis Mai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyddiadau dangosol yn unig oedd y rhai a roddwyd, er mwyn rhoi amser i'r sectorau gynllunio a pharatoi, gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud yn nes at yr amser, unwaith y bydd effaith y mesurau llacio eraill wedi'i hasesu ac yn amodol ar y sefyllfa iechyd.

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r aberth rydym i gyd wedi'i wneud yn cael effaith gadarnhaol yn y frwydr yn erbyn coronafeirws. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn hynod o anodd i bob un ohonom, ac unwaith eto hoffwn ddiolch i bawb am eu hymdrechion.

"Mae'r ymdrechion hyn wedi ein galluogi i lacio’r cyfyngiadau'n raddol, i gyflwyno mwy o elfennau o fywyd normal yn raddol.

"Gyda'r tywydd yn gwella, a mwy o gyfleoedd i weld teulu a ffrindiau, mae rheswm dros fod yn fwy optimistaidd. Fodd bynnag, ni allwn ymlacio’n llwyr eto. Mae angen i bob un ohonom fod yn wyliadwrus o hyd, mae angen i ni barhau i wneud ein rhan i gadw'r clefyd angheuol hwn dan reolaeth.”

Rydym wir yn croesawu'r cyhoeddiad diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a'r dyddiadau dangosol a gyhoeddwyd ar gyfer parhau i ailagor gwahanol sectorau wrth i ni symud tuag at fywyd mwy normal unwaith eto.

Mae'n seiliedig ar y sefyllfa iechyd cyhoeddus sy'n gwella yng Nghymru, sydd wedi gweld nifer yr achosion o goronafeirws yn ein cymunedau yn gostwng a phwysau'n lleddfu ar y GIG.

Wrth i'r tywydd barhau i wella, rydym yn annog pawb i barhau i gadw at yr holl reolau sydd ar waith ac i barhau i ymbellhau'n gymdeithasol, golchi dwylo a gwisgo gorchuddion wyneb lle bo angen.

Dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Huw David

Chwilio A i Y