Cynllun i fuddsoddi £2.7m mewn gwella ffyrdd lleol
Poster information
Posted on: Dydd Mercher 28 Ebrill 2021
Bydd ffyrdd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu hail-wynebu, eu hatgyweirio a'u gwella fel rhan o fuddsoddiad gwerth £2.7m yn y rhwydwaith priffyrdd lleol yn ystod y flwyddyn i ddod.
Mae’r awdurdod lleol yn gwneud gwaith ar 40 o ffyrdd lleol fel rhan o’i rhaglen gwella priffyrdd.
Bydd gwaith arwynebu yn cael ei wneud ar y ffyrdd canlynol:
A48 Pyle Cross
B4281 Ffordd Fferm yng Nghefn Cribwr
A473 Cylchfan Felindre a’r ffyrdd dynesu ym Mhencoed
A4064 Stryd Rhydychen ym Mhontycymer
A4061 Stryd Fawr - o gyffordd Stryd Rhiwglyn i’r orsaf dân yng Nghwm Ogwr
A4093 Intervalley Road - Llangeinor Arms tuag at Langeinwyr
B4280 Penprysg i Rockwool ym Mhencoed
Heol Betws (Tudor Drive i Heol Bradford) ym Metws
Cae Bach yn Llangeinwyr
B4281 Heol Ewenni, Pen-y-bont ar Ogwr
Teras Davies / Heol Garnwen yn Nantyffyllon
Carlton Place ym Mhorthcawl
Stryd Nolton - cyffordd Heol y Llys i gyffordd Stryd Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Heol Cheltenham yn Notais
Teras Litchard ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Stryd y Gogledd yng Nghaerau
Fron Heulog, Bryntirion
Heol Tŷ Gwyn ym Maesteg
Haul Bryn / Dan y Bryn / Teras Blandy yn Nant-y-moel
Heol y Gorllewin - Cyffordd Cae Ganol junction i gyffordd Anglesey Way yn Notais
Heol yr Ysgol / Heol Byeastwood yng Nghoety
Heol Bracla - Church Acre i Hunters Ridge ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Pentyla yn Nantyffyllon
Heol Gordon / Highfield Avenue ym Mhorthcawl
B4181 Heol Tremaen ym Mhen-y-bont ar Ogwr
B4181 Heol Llangrallo i’r goleuadau traffig yng nghefn Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofa ym Mracla
Heol West Plas - dynesfa Litchard Cross
Coegnant Close, Ystad Ddiwydiannol Bracla ym Mhen-y-bont ar Ogwr
A4063 Heol Maesteg - Tondu
A4064 Llangeinwyr
Yn y cyfamser, bydd gwaith i drin arwyneb ffyrdd sy'n helpu i warchod ac ymestyn oes ffyrdd yn cael ei chynnal ar y ffyrdd canlynol:
A4063 Greenmeadow i’r Felin Bapur yn Llangynwyd
Shwt i Lety Brongu
A4063 Cyswllt Sarn tua’r Gorllewin (tuag at Abercynffig)
Heol Castell a Heol Shon yng Nghefn Cribwr
Stryd y Ddôl yn nhref Maesteg
Simpsons Way yn y Pîl / Bryn Cynffig
Summerfield Drive ym Mhorthcawl
Glenwood Close yn Llangrallo
College Close ym Mhen-y-bont ar Ogwr
Greenacres yn Ne Corneli
Mae hyn yn rhan o fuddsoddiad parhaus o filiynau o bunnoedd yn y rhwydwaith priffyrdd i wneud gwelliannau i gymunedau ledled y fwrdeistref sirol.
Er bod y rhaglen bellach yn cael ei threfnu, byddwn yn parhau i edrych ar geisiadau am welliannau i'r briffordd a byddwn yn cynnal archwiliadau yn ôl yr angen, gan eu hychwanegu at y rhaglen os cânt eu hystyried yn flaenoriaethau uwch.
Gwneir pob ymdrech i gyfyngu ar aflonyddwch wrth i waith gwella priffyrdd gael ei wneud, fodd bynnag, o ystyried maint y gwaith, mae'n anochel y bydd rhywfaint o aflonyddwch ac ymddiheurwn ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra. Gofynnwn i yrwyr am eu dealltwriaeth ac amynedd wrth i ni gwblhau’r gwaith.
Dywedodd Janine Nightingale, cyfarwyddwr cymunedau'r cyngor
Mae ardaloedd lle mae angen gwaith yn cael eu hadnabod gan arolygwyr priffyrdd y cyngor sy’n defnyddio cyfres o asesiadau, arolygon cyflwr a phrofion atal sgidio tra hefyd yn ystyried materion a godwyd gan y cyhoedd a chynghorwyr lleol.