Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cynllun grantiau’n agor er mwyn cefnogi’r rheiny sydd wedi’u heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd cynllun grantiau newydd ar gael i unigolion a sefydliadau ledled Cymru sy’n gwneud gweithgareddau gydag unigolion sydd yn cael eu heffeithio, neu sydd wedi cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.

Mae’r cynllun werth £200,000, ac mae’n ceisio rhoi hwb i fentrau sy’n cefnogi unigolion sy’n cael eu magu, neu sy’n byw ar aelwydydd lle mae cam-drin domestig neu gamddefnyddio sylweddau yn digwydd, yn ogystal â’r unigolion hynny sy’n darparu cymorth ymarferol i deuluoedd er mwyn eu helpu nhw i ddelio â materion megis cyllid teuluol.

Mae profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn ddigwyddiadau trawmatig, yn enwedig y rhai sy’n digwydd yn fuan mewn plentyndod sy’n effeithio ar iechyd a llesiant pobl yn sylweddol.

Yn ogystal, gellir defnyddio’r cyllid hefyd i gefnogi unigolion neu sefydliadau sy’n darparu gweithgareddau er mwyn gwella iechyd meddyliol a chorfforol, neu’r rhai hynny sy’n annog cymunedau i gynnig cymorth ac undod i’r naill a’r llall.

Mae cyllid yn amrywio o £200 ar gyfer grwpiau heb gyfrif banc i hyd at £30,000 ar gyfer consortiwm.

Rhaid cyflwyno ceisiadau ar gyfer y prif grant, sydd werth rhwng £20,000 a £30,000, erbyn 15 Tachwedd 2021. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer grantiau llai, sydd werth rhwng £200 a £500, yw 4 Tachwedd 2021 a 3 Chwefror 2022.         

Rydym yn croesawu’r cynllun grant newydd hwn, ac yn annog sefydliadau ac unigolion ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr sy’n gwneud gweithgareddau gydag unigolion sy’n cael eu heffeithio gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, neu sydd wedi’u heffeithio, i wneud cais.

Cynghorydd Nicole Burnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chymorth Cynnar

Agorwyd y broses ymgeisio’r wythnos hon, ac fe’i rheolir gan Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd Troseddu ar ran Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun presennol ar gael ar gyfer blwyddyn ariannol 2021-22 yn unig, a rhaid defnyddio pob grant erbyn 31 Mawrth 2022.

I gael manylion a chanllawiau llawn, neu i wneud cais i gofrestru ar gyfer y cynllun, ewch i wefan Heddlu De Cymru a’r Comisiynydd Troseddu.

Chwilio A i Y