Cynllun grant newydd ar gyfer darparwyr gofal plant
Poster information
Posted on: Dydd Mawrth 25 Awst 2020
Bydd cynllun grant newydd gan Lywodraeth Cymru yn cael ei lansio heddiw (dydd Llun 24 Awst) ar gyfer darparwyr gofal plant.
Gall busnesau wneud cais am hyd at £5,000 i dalu am golli incwm rhwng 1 Ebrill 2020 a 30 Mehefin 2020 o ganlyniad i bandemig y coronafeirws.
Mae’r Grant Darparwyr Gofal Plant ar gyfer busnesau gofal plant sydd wedi’u cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru, gan gynnwys gwarchodwyr plant, ysgolion meithrin, cylchoedd meithrin, crèches a chlybiau y tu allan i oriau ysgol.
Diben y grant yw cefnogi busnesau gofal plant cofrestredig gyda chymorth llif arian uniongyrchol er mwyn eu helpu i ymdopi â chanlyniadau economaidd yr argyfwng Covid-19.
Nod y grant yw ceisio helpu'r busnesau gofal plant hynny nad ydynt wedi gallu cyrchu cynlluniau eraill, ac mae'n ategu mesurau eraill i gefnogi busnesau, mentrau cymdeithasol a sefydliadau elusennol yng Nghymru sy’n rhan o’r ymateb i Covid-19.
Gall pob darparwr gofal plant sy'n bodloni'r meini prawf wneud cais. Os oedd yn rhaid i'ch busnes gau oherwydd y coronafeirws, gallwch wneud cais o hyd cyn belled â'ch bod yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd eraill, sy'n cynnwys ailagor eich gwasanaeth erbyn 14 Medi, neu cyn gynted ag y bydd eich ysgol yn galluogi hynny, os yw'r busnes wedi'i leoli mewn ysgol.
Gan groesawu'r cynllun grant newydd, dywedodd Huw David, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd y grant yn cael ei weinyddu gan awdurdodau lleol, a gall busnesau wirio eu cymhwysedd trwy ymweld â gwefan Busnes Cymru. Bydd yn rhaid i ymgeiswyr gynnwys tystiolaeth ategol yn eu cais.
Ni fydd darparwyr gofal plant yn gymwys ar gyfer cyllid os ydynt wedi cwblhau cais llwyddiannus ar gyfer y cynlluniau canlynol, neu wedi derbyn cyllid ganddynt:
- Grantiau ardrethi busnes a weinyddir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
- Y Gronfa Cadernid Economaidd
- Y Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig
- Grant cychwyn busnes gan Lywodraeth Cymru
- Cronfa Cadernid y Trydydd Sector
- Cynllun grant Mudiad Meithrin
Caiff y grant ei ddarparu yn y fwrdeistref sirol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a gellir gwneud ceisiadau o ddydd llun 24 Awst ymlaen.
Am fwy o fanylion, ewch i dudalen we cymorth busnes Llywodraeth Cymru ar wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.