Cynllun Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd yn cynnig cymorth i drawsnewid eiddo
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 25 Mehefin 2021
Mae cynllun grant yn cynorthwyo perchnogion eiddo a phrynwyr tro cyntaf i roi defnydd unwaith eto i eiddo gwag, wedi rhoi cymorth i drawsnewid cartref ym Maesteg.
Roedd Grant Eiddo Gwag Tasglu'r Cymoedd, a lansiwyd ym mis Medi 2019, yn caniatáu i berchnogion eiddo neu ddarpar berchnogion ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr wneud cais am grantiau o hyd at £20,000 ar gyfer adnewyddiadau, a hyd at £5,000 at fesurau ynni.
Yn ystod dau gam y cynllun, mae £460,000 o gyllid wedi'i neilltuo gyda'r gwaith yn digwydd mewn eiddo yng nghymunedau'r cymoedd, megis Maesteg, Pontycymer, Brynmenyn a Thondu.
Er mwyn bod yn gymwys, roedd rhaid i ymgeiswyr fod yn berchnogion neu ddarpar berchnogion a oedd yn bwriadu defnyddio'r eiddo gwag fel eu prif gartref am o leiaf pum mlynedd o'r dyddiad y cafodd y gwaith a gefnogwyd gan grant ei ardystio.
Dan y cynllun, rhoddodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gyllid cyfatebol o £100,000 gyda Llywodraeth Cymru yn darparu'r swm a oedd yn weddill.
Roedd yr holl eiddo yn ardal Tasglu'r Cymoedd o Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac wedi bod yn wag am gyfnod o chwe mis cyn eu prynu, ac yn ystod gwneud cais am y grant.
Pan wnaethom brynu'r tŷ, roedd wedi bod yn wag ers dros ddwy flynedd, tair o bosibl, ac roedd mewn cyflwr eithaf gwael, yn edrych fel adfail, gyda'r ffenestri yn hongian, pibell garthion yn mynd drwy ganol y gegin ac asbestos yn y to.
A ninnau wedi gwneud cais am y Grant Cartrefi Gwag, mi aeth drwodd yn sydyn iawn, roeddem wedi ein synnu ar yr ochr orau gan y broses gyfan ac yn hynod ddiolchgar am y cyllid.
Cawsom oddeutu £12,000 drwy'r grant a oedd yn gymorth enfawr, yn talu am bethau newydd fel trydan drwy'r tŷ, boeler newydd ac ail-blastro'r nenfydau.
Dywedodd Sam Mathias-Chapman a gafodd grant ar gyfer gwaith yn ei chartref ym Maesteg
Mae'r grant yn rhoi cefnogaeth i gyflawni blaenoriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i ddefnyddio eiddo gwag yn ardaloedd y Cymoedd unwaith eto, i gynorthwyo gydag adfywio cymunedau, darparu mwy o ddewis a llety addas ar gyfer preswylwyr.
Dan y cynllun, roedd yn ofynnol i berchennog y cartref wneud cyfraniad gorfodol o 15 y cant o gyfanswm cost y gwaith cymwys - wedi'i gyfyngu i £3,000 os cymeradwywyd yr uchafswm grant o £20,000 - gyda'r awdurdod lleol yna'n darparu 35 y cant o'r swm yn weddill, a Llywodraeth Cymru, 50 y cant.
Cafodd y cynllun ei reoli ar ran Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr gan Wasanaeth Strategaeth Tai a Buddsoddi Rhondda Cynon Taf.