Cynllun amddiffyn rhag llifogydd newydd gwerth £6.4m ym Mhorthcawl
Poster information
Posted on: Dydd Gwener 18 Mehefin 2021
Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun newydd gwerth £6.4m a fydd yn helpu i amddiffyn Porthcawl rhag llifogydd ac unrhyw godiad posib yn lefel y môr yn y dyfodol.
Mae'r arbenigwyr adeiladu, Knights Brown wedi sefydlu compownd ar y tir yn Llyn Halen ac wedi dechrau cam cyntaf y gwaith, sy’n canolbwyntio ar Forglawdd eiconig y Gorllewin.
Mae strwythur mewnol y morglawdd, sydd 200 mlwydd oed, yn cynnwys ei graidd coed gwreiddiol, ac mae angen gwneud llawer o waith adnewyddu ac atgyweirio arno i sicrhau ei fod yn gallu parhau i wrthsefyll y llanw a thywydd garw'r môr.
Fel rhan o’r ail gam, bydd Knights Brown yn diweddaru Promenâd y Dwyrain i greu gwell amddiffynfeydd llifogydd rhwng Marina Porthcawl a Thraeth Coney.
Yna bydd y gwaith yn ymestyn i Sandy Bay a chyn belled â Rhych Point, lle bydd amddiffynfeydd llifogydd a gwaith amddiffyn twyni yn cael eu diweddaru.
Ariannwyd y gwaith amddiffyn rhag llifogydd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol.
Mae'r cynllun gwerth miliynau o bunnoedd newydd hwn yn nodi'r buddsoddiad diweddaraf ym Mhorthcawl ac yn dilyn llwyddiant yr amddiffynfeydd môr newydd gwerth £3m a grëwyd ar Draeth y Dref.
Adeiladwyd Morglawdd y Gorllewin yn yr 1820au a chafodd ei ymestyn yn yr 1860au. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae'r morglawdd wedi dod yn fyd-enwog ar ôl cael ei gynnwys mewn ffotograffau dramatig sy'n dangos y tonnau enfawr sy'n chwipio drosto yn ystod stormydd, llanw uchel a thywydd garw.
Mae'r prosiect yn rhan allweddol o'r seilwaith ar gyfer amddiffyn y dref rhag llifogydd, a bydd hefyd yn helpu i sicrhau datblygiad pellach yn ardal Llyn Halen ym Mhorthcawl. Bydd yn cadw dros 500 o gartrefi a dros 170 o fusnesau yn ddiogel, ac yn diogelu asedau a seilwaith gwerth miloedd o bunnoedd.
Dywedodd y Cynghorydd Charles Smith, Aelod Cabinet dros Gymunedau