Cynigion contract gwastraff yn cynnwys cynlluniau ar gyfer cerbydau ‘mwy gwyrdd’
Poster information
Posted on: Dydd Iau 15 Gorffennaf 2021
Mewn cyfarfod craffu'r wythnos nesaf, bydd cynghorwyr yn ystyried cynigion i ymestyn y contract gwastraff gyda Kier ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr am ddwy i dair blynedd.
Bwriad yr estyniad posib yw sicrhau bod y fwrdeistref sirol yn gallu cynnal gwasanaethau casglu gwastraff ac ailgylchu effeithlon wrth i gynlluniau gael eu gorffen i gyflwyno contract saith mlynedd newydd, yn cynnwys cerbydau ynni 'gwyrdd' sy'n gyfeillgar i'r amgylchedd.
Cychwynnodd y contract saith mlynedd presennol yn 2017, a chafwyd newidiadau sylweddol i wasanaeth rheoli gwastraff y cyngor. Oherwydd hyn, cynyddodd cyfradd ailgylchu'r fwrdeistref sirol o fod yn un o'r isaf yng Nghymru i fod yr ail uchaf.
Fel rhan o'r newidiadau, cyflwynwyd cyfyngiad o ddau fag gwastraff gweddilliol a gwasanaeth casglu newydd ar gyfer cynnyrch hylendid amsugnol.
Gosodwyd targed i ailgylchu 64 y cant o wastraff trefol ar gyfer 2019/20, a llwyddodd yr awdurdod lleol i gyrraedd lefel ailgylchu o 67.6 y cant, sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd yng Nghymru, sef 65.1 y cant.
Wrth edrych ar ddata cymharol, mae contract gwastraff yr awdurdod lleol wedi dangos gwerth am arian a pherfformiad uchel ar sail Cymru gyfan. Mae oddeutu wyth miliwn o gasgliadau gyda cherbydau'n digwydd bob blwyddyn yn y fwrdeistref sirol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y targed nesaf o 70 y cant ar gyfer 2024/25, ac mae targedau ychwanegol yn cael eu hystyried ar gyfer awdurdodau lleol - mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gael 'Cymru Ddiwastraff' erbyn 2050.
Gyda’r awdurdod lleol yn bwriadu datblygu sector cerbydau gwastraff allyriadau isel iawn gan ddefnyddio cerbydau trydan neu hydrogen, a gan nad yw targedau nesaf Llywodraeth Cymru i’r dyfodol yn glir eto, mae'r cyngor yn edrych ar y posibilrwydd o ymestyn contract Kier sy'n dod i ben ym mis Ebrill 2024 o ddwy neu dair blynedd
Bydd hyn yn rhoi amser ychwanegol i brofi cerbydau a ddefnyddir i wneud casgliadau gwastraff ac ailgylchu, ac i asesu effaith cyfeiriad polisi pellach a thargedau ailgylchu, unwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei chanllawiau ar gyfer awdurdodau lleol.
Mae profion tanwydd amgen ar gyfer gwasanaethau gwastraff eisoes wedi dechrau yng Nghymru, ac mae'n debygol o fwydo i mewn i'r gwaith o ddylunio fflyd o gerbydau yn ystod y pum mlynedd nesaf.
Mae'r buddsoddiad arfaethedig mewn technoleg newydd yn rhan o Agenda Datgarboneiddio 2030 yr awdurdod lleol, wedi'i thargedu at leihau allyriadau carbon yn y fwrdeistref sirol.
Bydd cynghorwyr y Pwyllgor Trosolwg Pwnc a Chraffu yn trafod y cynigion mewn cyfarfod ddydd Llun 19 Gorffennaf.