Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn ystyried tynnu'n ôl pob cymhorthdal ar gyfer bysiau cyhoeddus

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystyried tynnu'r holl gymorthdaliadau y mae'n eu darparu tuag at wasanaethau bysiau lleol yn ôl.

Mae'r cyngor a Llywodraeth Cymru yn cefnogi gwasanaethau bysiau rhanbarthol a lleol trwy gynnig cymhorthdal ar lwybrau na allai fod yn fasnachol hyfyw.

Dechreuodd y cyngor y flwyddyn ariannol gyfredol gyda chyllideb o £180,000 i'w rhoi tuag at wasanaethau bysiau a chludiant cymunedol, a chafodd grant o £386,826 gan Lywodraeth Cymru ei ychwanegu at hyn.

Yn gynharach yn y flwyddyn hon, cytunodd Aelodau o'r Cabinet i dorri'r cymhorthdal ar gyfer chwe llwybr bysiau o amgylch Pen-y-bont ar Ogwr a oedd yn cael eu hariannu'n rhannol. Ers cymryd y penderfyniad hwnnw ym mis Mai, mae pob un o'r chwe llwybr heblaw un yn parhau i gael ei weithredu'n fasnachol gan y cwmnïau bysiau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, er bod gan y rhain amserlenni diwygiedig a allai olygu gwasanaethau llai aml.

Er enghraifft, mae bws rhif 68 rhwng Pen-y-bont ar Ogwr a Chefn Glas yn parhau i redeg, ond mae'r un olaf yn gadael nawr am 7pm.

Ar ôl monitro'r effaith o gael gwared ar y cymorthdaliadau hynny, mae Aelodau'r Cabinet yr wythnos hon wedi cytuno i gefnogi'r cynnig i dynnu'r holl gyllid sydd ar ôl ar gyfer gwasanaethau bysiau â chymorth yn y fwrdeistref sirol o 2019–20 ymlaen, i helpu'r awdurdod lleol i gyrraedd targedau arbed arian y dyfodol.

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus llawn yn cael ei gynnal nawr o fewn y misoedd nesaf fel y gall trigolion ddweud eu dweud cyn i'r penderfyniad terfynol gael ei wneud.

Dengys ein profiad diweddar na fydd cael gwared ar gymorthdaliadau o reidrwydd yn golygu na fydd pob llwybr yn cael ei ddarparu bellach mewn rhyw fodd neu'i gilydd.

Fodd bynnag, y gweithredwyr fyddai'n gyfrifol am benderfynu a fyddant yn gweithredu'n llawn neu'n rhannol, a gallent benderfynu atal teithiau nad ydynt yn fasnachol hyfyw.

Nid oes neb am weld arian yn cael ei wastraffu ar fysiau gwag sy'n gwneud teithiau nad oes eu hangen, ond yn amlwg, mae llawer o drigolion lleol sy'n dibynnu ar ddal bws i fynd a dod yn eu bywydau bob dydd.

Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gymunedau

"Felly, cyn i ni wneud unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch tynnu'r cymorthdaliadau yn ôl, byddwn yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn casglu safbwyntiau pobl leol, a byddwn hefyd yn trafod y mater gyda'r cwmnïau bws. Wedi hyn, gallwn ystyried y goblygiadau a fydd yn codi yn sgil y posibilrwydd o gael gwared ar y cyllid hwn yn briodol."

Byddai tynnu'r holl gymorthdaliadau sydd ar ôl yn effeithio ar yr wyth gwasanaeth bysiau canlynol:
• Rhif 67, gwasanaeth First Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr i Abercynffig trwy Ben-y-Fai (dydd Llun i ddydd Sadwrn).
• Rhif 37, gwasanaeth Easyway o Ystad Parc Maesteg (dydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y dydd)
• Rhif 73, gwasanaeth First Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr i Flaengarw (dydd Llun i ddydd Sadwrn gyda’r nos)
• Rhif 76, gwasanaeth First Cymru o Ben-y-bont ar Ogwr i Fetws, Gwyriad Vale View (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
• Rhif 51, gwasanaeth Easyway o Ben-y-bont ar Ogwr i Oaklands Road (dydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y dydd)
• Rhif 803, gwasanaeth TravelFinal o Danygraig i Borthcawl (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
• Rhif 61, gwasanaeth Peyton Travel o Notais i Borthcawl (taith gron) (dydd Llun i ddydd Sadwrn)
• Rhif 16, gwasanaeth Easyway o Ben-y-bont ar Ogwr i Flaengarw trwy Heol-y-Mynydd a Braich-y-Cymer (dydd Llun i ddydd Sadwrn yn ystod y dydd)

O ganlyniad i gyni cyllidol, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gorfod arbed £30 miliwn yn y tair blynedd ddiwethaf, ond bydd yn rhaid iddo arbed £30 miliwn arall yn ystod y tair blynedd nesaf i fantoli'r cyfrifon, gan barhau i amddiffyn gwasanaethau sydd wedi'u hanelu at ei drigolion mwyaf agored i niwed.

 

Chwilio A i Y