Cyngor yn ystyried adleoli staff er mwyn sicrhau parhad i wasanaethau hanfodol
Poster information
Posted on: Dydd Llun 16 Mawrth 2020
Mae arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi dweud bod yr awdurdod lleol yn ystyried adleoli staff ac adnoddau er mwyn sicrhau ei fod yn parhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol yn ystod y sefyllfa waethaf posibl oherwydd achosion o coronafeirws.
Mae’r awdurdod lleol wedi ffurfio grŵp cydlynu a chynllunio ar gyfer coronafeirws ac mae wrthi’n datblygu’r strategaeth y bydd yr awdurdod lleol yn ei mabwysiadu os bydd amrywiaeth o senarios gwahanol yn digwydd.
Mae trafodaethau ar waith gyda chynrychiolwyr yr undebau llafur i gynllunio ar gyfer lefelau amrywiol o effaith ar ein gweithlu, ac yn benodol rydym yn ystyried ffyrdd o gyflenwi ein gwasanaethau mwyaf hanfodol. Mae Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a sefydliadau fel Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio i gyfyngu ar nifer yr achosion o coronafeirws.
Mae’r cyngor a’i bartneriaid yn parhau i gefnogi’r ymdrechion hyn. Hefyd, mae llawer o waith cynllunio a gwaith gweithredol yn cael ei wneud ar draws yr holl wasanaethau yn yr awdurdod lleol i sicrhau y gellir cynnal gwasanaethau blaenoriaeth. Yn y cyfamser, mae’n bwysig iawn bod pobl yn dilyn cyngor meddygol swyddogol gan sefydliadau fel y GIG ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn hytrach na ffynonellau heb eu cadarnhau.
Meddai’r Cynghorydd Huw David