Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn trefnu digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ddigwyddiad am ddim i nodi Diwrnod Cofio’r Holocost diwedd y mis hwn ac i gofio’r rhai a gollodd eu bywydau yn yr Holocost ac achosion eraill o hil-laddiad yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur.

Mewn partneriaeth â Choleg Penybont, bydd y digwyddiad coffáu blynyddol yn cael ei gynnal yn Theatr Sony ddydd Gwener 26 Ionawr am 10:30am. Thema’r digwyddiad yw ‘Grym Geiriau’, sy’n annog y rhai a fydd yn bresennol i feddwl am eiriau pwerus sydd yn eu barn nhw yn berthnasol i Ddiwrnod Cofio’r Holocost.

Mae lleoedd ar gael i hyd at 100 o aelodau’r cyhoedd ddod i’r digwyddiad. Bydd y lleoedd yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i’r felin, felly bydd angen cadw lle ymlaen llaw, drwy anfon e-bost i marketing@bridgend.gov.uk neu ffonio 01656 815322, a hynny erbyn Dydd Mercher 24 Ionawr.

Yn y digwyddiad, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd gwestai arbennig, Eric Murangwa Eugene, a oroesodd hil-laddiad 1994 yn Rwanda. Mae Murangwa yn ymgyrchydd brwd dros addysg ynglŷn â hil-laddiadau, ac mae’n credu y goroesodd ei deulu oherwydd dewrder a dynoliaeth aelodau ei hen dîm pêl-droed.

Mae gan Murangwa ei ymgyrch ei hun i wneud chwaraeon yn rhan annatod o broses gymodi ac ailadeiladu Rwanda, trwy sicrhau y caiff chwaraeon ei ddefnyddio ar gyfer newid cymdeithasol a sgiliau bywyd, yn ogystal â gweithgaredd hamdden.

Yn dilyn y traddodiad, bydd y saith datganiad o ymrwymiad yn cael eu darllen yn ystod y digwyddiad Diwrnod Cofio’r Holocost, a bydd cannwyll cofio yn cael ei gynnau gan Faer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Pam Davies.

Myfyrwyr o Coleg Penybont fydd yn arwain y seremoni, a bydd y rhai a fydd yn bresennol yn cael eu gwahodd i ysgrifennu ar gerdyn post yn rhan o thema Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio’r Holocost eleni, sef ‘Grym Geiriau’. Bydd y rhai a fydd yn bresennol yn gallu postio’u cardiau mewn blwch postio arbennig yn ystod y digwyddiad, a byddant wedyn yn cael eu hanfon i’r Ymddiriedolaeth.

Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn cofio'r bobl ddewr hynny a gollodd eu bywydau yn drychinebus yn ystod yr Holocost ac mewn hil-laddiadau eraill yng Nghambodia, Rwanda, Bosnia a Darfur, ac yn anrhydeddu’r rhai a oroesodd.

Rydym ni fel Cyngor yn falch o gynnal y Diwrnod Cofio’r Holocost blynyddol ac yn edrych ymlaen at groesawu aelodau’r cyhoedd am yr ail flwyddyn yn olynol. Byddwn yn rhoi pwyslais mawr ar yr Holocost a’r hil-laddiadau eraill, ac felly mae’n anrhydedd cael croesawu un o oroeswyr hil-laddiad Rwanda, Eric Murangwa Eugene, i ymuno â ni a siarad am ei brofiadau.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David.

Mae nifer prin iawn o leoedd parcio ar gyfer y rhai a fydd yn bresennol ym mhrif gampws Coleg Penybont, felly cynghorir fod pobl yn defnyddio’r meysydd parcio yng nghanol y dref. Fodd bynnag, os oes gennych anghenion hygyrchedd, rhowch wybod i ni wrth gadw eich lle ar gyfer y digwyddiad.

Chwilio A i Y