Accessibility links

Gwrandewch gyda Browsealoud
Dewis iaith

Cyngor yn rhoi cynlluniau ar waith wrth i’r Swyddfa Met gyhoeddi rhybudd tywydd am eira a rhew

Mae’r Swyddfa Met wedi cyhoeddi rhybudd tywydd melyn am eira a rhew posibl yn ne Cymru, gyda’r rhybudd yn cynnwys Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae cynlluniau wedi'u rhoi ar waith gan y cyngor i ymdopi ag effaith amhariad posibl a chynghorir trigolion i ymweld â sianeli cyfryngau cymdeithasol a gwefan y cyngor i gadw ar flaen y datblygiadau diweddaraf.

Os yw pennaeth yn penderfynu nad oes modd agor ysgol, bydd yn sicrhau bod disgyblion, rhieni a gofalwyr yn cael gwybod cyn gynted â phosibl drwy’r dull cyfathrebu arferol. Bydd tudalen ysgolion ar gau bwrpasol y cyngor hefyd yn cael ei diweddaru.

Mae'r cyngor yn paratoi drwy storio dros 5,000 tunnell o halen ac mae cynlluniau ar waith ar gyfer ailgyflenwi stoc yn ystod pyliau hir o dywydd garw gaeafol. 

Pan fydd y tymheredd yn gostwng, mae’r cyngor yn rhag-drin y rhannau mwyaf prysur o’r rhwydwaith ffyrdd â halen craig gronynnog er mwyn atal rhew rhag ffurfio, a gall alw ar nifer o gerbydau a ddyluniwyd yn arbennig fel graeanwyr i gadw ffyrdd yn glir.

Unwaith mae eira wedi syrthio, mae'n rhaid clirio llwybrau gydag erydr cyn y gellir eu trin. Ar lwybrau cerdded, mae'r cyngor yn defnyddio offer arbenigol sy’n helpu i ddadmer rhew, ac mae gweithwyr hefyd yn clirio eira â llaw ac yn defnyddio chwythwyr eira.

Cyn dechrau pob tymor gaeaf, caiff y biniau eu llenwi â chymysgedd o halen a thywod miniog sydd ar gael i’w ddefnyddio gan breswylwyr a modurwyr i’w gwneud hi’n haws teithio drwy strydoedd lleol pan fydd yr amodau’n dirywio. 

Mae staff y cyngor yn gweithio bob awr o’r dydd, yn aml dan amodau ofnadwy, i gynnig gwasanaethau a chadw'r fwrdeistref sirol yn symud mor ddiogel â phosibl. Mae’r cyngor wedi rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer gwasanaethau rheng flaen fel Gofal yn y Cartref neu gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar y palmant, a bydd yn cyhoeddi gwybodaeth benodol am wasanaethau o’r fath yn ddibynnol ar ddifrifoldeb yr amodau ac am ba hyd mae disgwyl iddynt barhau.

Mae sawl rheswm pam y gallai pennaeth benderfynu bod angen cau ysgol yn ystod tywydd garw, ac nid oes angen eira trwm i hyn ddigwydd bob tro. Weithiau, gall ysgol methu ag agor oherwydd bod pibellau wedi rhewi, ac mewn perygl o fyrstio, neu oherwydd nad yw staff wedi gallu teithio o ardaloedd eraill lle mae mwy o eira wedi disgyn. Cau ysgol yw’r dewis

Mewn sefyllfaoedd lle mae angen cau ysgol, mae’r awdurdod yn ceisio dychwelyd i wasanaeth arferol cyn gynted ag y bo modd yn ddiogel.

Dywedodd y Cynghorydd Huw David, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr:

Am ragor o fanylion, cynghorir trigolion i ymweld â thudalen we tywydd y gaeafy cyngor, sy’n cynnig digon o gyngor a gwybodaeth ddefnyddiol, gan gynnwys atebion i gwestiynau cyffredin.

Chwilio A i Y